Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/282

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hen wr mewn gwisg o ddeunydd cartref yn llusgo at y capel ar ei ddwyffon, ei wallt yn wyn fel gwlan, ac yn llaes iawn ac yn pwyso ar ei ysgwyddau—William Williams Ty'nyfron wrth ei enw. Un o hen grefyddwyr y Buarthau ydyw yntau. Y noswaith y daeth adref o'r seiat gyntaf iddo, gofynnodd Jane Lewis ei wraig, gyda'i maban ar ei glin, ai wedi myned i'r seiat yr oedd? gan y mawr ofnai hi hynny. Aflonydd y teimlai Wil ei gwr, a chosai lechwedd ei ben. Ond allan â'r addefiad—ïe, wedi myned i'r seiat yr oedd. I fyny a Jane ar ei thraed, gyda'r plentyn yn ei breichiau, a rhwymyn ei ddillad ef yn llusgo o'r tu ol, fel y cerddai y fam ymaith, gan feddwl ohoni ar y funyd am adael ei gwr am byth. Ond meddyliau eraill a orfu yn y man! Eithr fe ddioddefodd Wil fwy na mymryn yn yr achos yma. Edrychai yn hen odiaeth, ond nid oedd yn fwy na 74 mlwydd pan fu farw. Damegwr wrth'anian ydoedd ef. Gwrandewch arno yn y seiat: "Mi fydda i yn gweld yr hen ddyn a'r dyn newydd yn debyg iawn i wr a gwraig ifanc. wedi dod i fyw at hen bobol. Mae y gwr ifanc, welwchi, eisio i'r hen wr glirio'i ddodrefn gael iddo ef gael lle i osod i ddodrefn newydd. i lawr. Ond y mae'r hen wr, welwchi, yn teimlo yn anfoddlon i glirio i ddodrefn, a rhoi'r llywodraeth i fyny i'r gwr ifanc. Y mae'r hen wr yn anesmwyth iawn, ac mi gwelwch o yn i anesmwythyd yn rhoi proc yn y tân. Mynd ymlaen a wna'r gwr ifanc, beth bynnag, a symuda'r hen bethau o ddodrefnyn i ddodrefnyn. Ac y mae'r hen wr yn gwingo yn ofnadwy, welwchi, wrth weld i bethau yn mynd, ac yntau yn colli'r llywodraeth yn i dŷ i hun. Fel yna yn union y bydda inna yn meddwl am yr hen ddyn a'r dyn newydd. Mae'r hen ddyn yn gwingo yn ofnadwy pan ddaw y dyn newydd i mewn i'r galon, a dechre lluchio dodrefn yr hen ddyn allan, a dechre llywodraethu yno. Unwaith y delo'r anian newydd i mewn, welwchi, ffrae fydd hi o hyd yn y tŷ rhwng yr hen anian a'r newydd, achos y mae'r hen anian yn gweld i llywodraeth hi'n mynd yn llai lai, a llywodraeth yr anian newydd yn fwy fwy. Ac felly y byddafi yn meddwl am danaf fy hun, mai ffrae fydd hi o hyd yma bellach. tra byddafi byw." Gwyddai'r hen Walltgwyn yn eithaf da beth oedd ffrae yn y tŷ, o'r hen amser gynt. Proffwydai am ambell un wedi gadael yr eglwys, ei fod fel bachgen drwg wedi gadael cartref, ond y deuai efe yn ol dan gicio'r drws! Brydiau eraill yn y cyfryw amgylchiad, fe gymerai ei ddameg oddiwrth yr oen a'r ddafad, er pellhau ohonynt oddiwrth eu gilydd am ysbaid, na byddent yn hir iawn heb ddod i chwilio am eu gilydd drachefn. Edrydd Mr.