Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/284

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Griffith. Daeth efe at grefydd yn llanc ieuanc ym Mrynmelyn y Gêst, Eifionydd. Gwasanaethai y pryd hwnnw yn Nhyddyneithyn. Cynelid y seiadau yno yn y prynhawn. Nid oedd y teulu yn grefyddol, ac atelid o'i gyflog yntau ar ben tymor gyfran gyfartal i'r amser a gollai oddiwrth ei waith. Penderfynodd yntau ddioddef yn ddirwgnach. Pan fyddai cydweithiwr heb broffesu, fe ymddiddanai âg ef ynghylch hynny mewn dull difrif. Codai gyfarfodydd gweddi ar gyfer ieuenctid. Pan fyddai rhai yn nacau eu dilyn, fe geisiai eu hennill mewn modd addfwyn. Os methu wnelai yn hynny, fe newidiai ei ddull, a cheryddai yn llym. Ac yr oedd ganddo ddylanwad neilltuol ar ieuenctid.Yr oedd yn ddirwestwr aiddgar, a gweithiodd yn egniol gyda dirwest. Dilynai'r cyfarfodydd llenyddol oddiar ofal calon am y bobl ieuainc. Llanwodd wahanol swyddau yr ysgol Sul. Yn athraw llwyddiannus. Ymwelai â'r gwragedd gweddwon a'r amddifaid yn eu cystudd. Bu yn drysorydd yr eglwys am flynyddoedd. Fe ddeallid yr arferai weddio yn ddirgel dros bersonau neilltuol. Yn wr o ymddiried. Yn gwahaniaethu oddiwrth ei frawd Richard fel y gwahaniaethai Iago oddiwrth Ioan. Yn hyderus am ei gyflwr wrth farw, yr hyn a ddigwyddodd Mawrth 17, 1876, ac yntau yn 58 oed.

Yn 1878 fe adgyweiriwyd y capel. Ymhen ychydig amser ar ol yr helaethiad a fu arno yn 1873-4, fe gafwyd fod gwendid yn yr adeiladwaith. Plygodd y tô a gwthiodd y muriau allan, nes o'r diwedd yr oedd yn berygl myned i mewn iddo. Yn adroddiad y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Nebo, Mai 29, 1879, fe ddywedir y teimlai y cyfeillion yn y lle yn bryderus braidd ynghylch amgylchiadau'r achos, ac y cawsont brofedigaeth dost drwy orfod ailadeiladu'r capel, oblegid fod yr adeiladwaith yn salw ac egwan, a'u bod wedi eu rhoi dan faich o ddyled ar adeg o gyfyngdra masnachol. Y ddyled yn 1877, £669; yn 1879, £1,539. Rhif yr eglwys yn 1878, 165.

Tuag 1882 yr ymadawodd William Grffiith Brynbugeiliaid i Abererch. Yn flaenor yma ers tuag 1860 neu cynt. Gwr ffyddlawn. Ef a'i deulu yn cyfrannu at yr achos yn well na neb.

Mai 24, 1882, y bu farw Richard Roberts, yn 81 mlwydd oed, yn gyd-flaenor â Richard Griffith o'r cychwyn. Ni fynnai weithredu fel blaenor, pa fodd bynnag, yn rhan olaf ei oes. Gwr cofus, wedi trysori ei gof yn dda. Yn selog gyda'r ysgol, ac wedi bod yn