Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/285

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arolygwr am flynyddoedd. Un o'i eiriau olaf, "Nef a daear a ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim."

Yn ei sel ca'dd noswylio—parod oedd,
Pa raid i'n ofidio?
Mynd at Grist, nid trist y tro,
Ennill oedd mae'n well iddo.

Yn 1883, dewiswyd i'r swyddogaeth, Griffith W. Jones a D. Roberts Brynafon, wedi hynny Maes y neuadd. Yn 1888 y bu farw William Jones Nazareth, wedi ei ddewis yn flaenor oddeutu 1856—7. Blaenor o ragoriaeth amlwg. Gwr grymus, egwyddorol, gweithgar. Collodd ei iechyd, fel nad allai wneud yr hyn a ddymunai.

Yn 1889 y dewiswyd John Edwards i'r swyddogaeth. Myned oddiyma i'r Capel Uchaf yn 1892, a chael ei alw i'r swydd yno. Yn 1893, rhowd galwad i'r Parch. John Morgan Jones, erbyn hynny wedi dychwelyd adref o Middlesbro, ar ol rhoi ei ofalaeth i fyny yno. Ymadawodd, gan dderbyn galwad o Gerryg y drudion.

Yn 1897 y bu farw Richard Griffith yn 88 oed, ac yn flaenor yma o'r dechre yn 1843, a'r gwr amlycaf a hynotaf yn y flaenoriaeth yma o'r cychwyn. Gweithiwr cyffredin o ran ei amgylchiadau. Bu'n ffyddlon dan anfanteision. Ffordd bell oddiwrth ei waith; ffordd bell drachefn i'r capel. Cerddodd lawer iawn i Gyfarfodydd Misol yn ei amser, a hynny pan oedd y sir heb ei rhannu yn ddau Gyfarfod Misol. Disgrifir ef gan Mr. John Morgan Jones fel henwr byrr o gorff, ac yn cwyno am y cryd—cymalau. Melancolaidd, ac o duedd i edrych ar yr ochr dywyll. Byddai'n dueddol o sôn am dano'i hun yn cerdded i Gyfarfodydd Misol, gan wlychu a maeddu ei hun. Anhawdd ei gael i godi i siarad; ond pan godai, gwrandawai pawb yn ddyfal, a byddid yn sicr o gael rhywbeth o werth ganddo. Ysgrythyrwr campus. Pynciau mawr yr Efengyl a geid ganddo bob amser. Hynod mewn gweddi: yn y byd ysbrydol yn uniongyrchol. Cafodd lawer o brofedigaethau, ond yn y brofedigaeth chwerfaf y cwynai efe leiaf. Pe digwyddasai iddo gael codwm go gâs oddiar gamfa, ei ebwch fyddai fel eiddo gwr ar ddarfod am dano; ond mewn gwir brofedigaeth ei ymddygiad fyddai eiddo'r Salmydd, "Aethum yn fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn." Yr oedd Mr. Morgan Jones wedi bod yn ysgol Clynnog flwyddyn cyn dechre pregethu. Ryw noson seiat