Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/290

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yr wyf yn gweled fy hun yn hogyn bach dieithr penfelyn yn llaw fy mam, yn nesu at y capel. Yr wyf newydd fyned i'm Testa- ment, ac yn ymhyfrydu mewn darllen pob peth a welaf. Dacw enw'r capel,- Nebo,' yn argraffedig ar ei dalcen. Deallais ar ol hynny mai John Jones Talsarn a roes yr enw iddo. 'Ysgoldy'r Mynydd' oedd yr hen enw. Ond Capel y Mynydd' fu'r enw arno am amser maith. Bu ychydig ysgarmes yn y Cyfarfod Misol o achos y peth. Y ffordd arferol o hel y casgl mis oedd galw enw'r lle, ac i bob un fyned ymlaen i dalu. Galwai T. Palestina Lewis y llyfr, ac ail alwai Ellis James Ty'n llwyn yr enw, mewn goslef ddynwaredol o'r lle, yn y dull a arferid ganddo ef. Pan oeddid un tro yn galw y llyfr, dyna Ellis James yn gwaeddi mewn llais main, ' Cap-êl y Mynydd.' Ond er fod y blaenor yn ymyl, nid oedd yn syflyd o'i le, ac ni chymerai arno glywed. Dywedid wrtho fod enw ei gapel wedi ei alw ddwywaith neu dair. Atebai yntau mai nid dyna enw eu capel hwy; a bu raid i'r awdurdodau ystwytho, a'i alw wrth ei enw 'Nebo' o hynny allan. Erbyn hyn y mae'r enw wedi myned ar y gymdogaeth cystal a'r capel.

"O ïe, wedi cychwyn i'r hen gapel yr oeddym. Ond gwelwn. fod yma amryw yr un fath. Mae cowrt y capel yn llawn o ddynion yn siarad â'u gilydd, ac ambell un heblaw y merched yn myned i mewn drwyddynt i'r capel. Nos Sadwrn ydyw, a disgwylir i Joseph Thomas roi pregeth wrth fyned heibio. Y mae amryw o'r gymdogaeth yn perthyn yn agos iddo. Nid yw efe eto wedi cyrraedd. Mae yma un dyn bychan yn myned oddiwrth y naill at y llall, ac yn ysgwyd llaw yn serchog â phawb ac yn gwenu, ac yn dweyd rhyw air siriol wrth bob un. Dacw fo wedi gweled fy mam a minnau yn dod, ac yr ydym yn ddieithr, newydd ddod i'r gymdogaeth. Daw ar ei union atom, ac nid yw'n gwybod dim am formality introduction. Ysgydwa law yn gynnes â'm mam, a dywed fod yn dda ganddo ein gweled yn dod i'r capel, ac yna ysgydwa law â minnau, a rhydd groesaw mawr i mi, a gwahoddiad i'r ysgol Sul dranoeth. Owen Roberts Tŷ capel ydyw. Gwr duwiol diamheuol. Os mai wrth faint eu calonnau, ac nid wrth faint eu pennau, y byddant yn cymeryd eu safleoedd yn y nef, yna fe fydd Owen Roberts ymhlith y pendefigion yno. Gwnaeth lawer i gynorthwyo rhai i deimlo yn gartrefol yn y lle. Ac er nad oedd yn flaenor, yr oedd fod gwr y tŷ capel yn wr siriol, ac yn medru sirioli pawb oedd yn dod i'r capel, yn fantais fawr i'r achos. Ymddiddanai am grefydd ar y