Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/304

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhydd John Jones ar ddeall ddarfod iddo yn ystod y cyfwng maith hwnnw ddangos ymroddiad a doethineb ac ymaros na ellir gwybod. mo'u maint bellach ond gyda manylrwydd ymchwil dydd brawd. Efe hefyd, fe ymddengys, fu'n cymell eglwys Talsarn i godi William Hughes yn bregethwr, ac yr oedd y ddau yn gyfeillion agos. Rhagorfraint fawr bywyd William Owen, pa ddelw bynnag, ydoedd bod yn gyfaill mynwesol i John Jones Talsarn. Ymddiddanai John Jones yn rhydd âg ef ynghylch ei bregethau, a chymhellai ef i'w beirniadu. Un tro, ar ol dadl faith yng Nghymdeithasfa'r Bala ar y wedd newydd a roid gan rai y pryd hwnnw i'r athrawiaeth, treuliodd John Jones yr amser yr holl ffordd adref mewn traethu ei olygiadau ei hun wrth William Owen ar y pethau neilltuol a oedd mewn dadl, ac mewn ymgynghori âg ef pa fodd i ddwyn y wlad i deimlo oddiwrth ei dyledswydd yn wyneb galwad yr Efengyl. Yr oedd ei olygiadau ef ei hun yn hollol gyfateb i'r eiddo John Jones. Tebyg ei fod yntau fel lliaws eraill yn cymeryd John Jones yn gynllun yn ei ddull o osod gwirionedd yr Efengyl allan. Danghosai fedr neilltuol mewn athrawiaethu, bob cyfle a gaffai, yn y seiadau, fel holwyddorydd yn yr ysgol, ac wrth gyfarch y gynulleidfa. Ym mhrinder pregethau ar y Sul ym Mhenygroes am flynyddoedd, yr oedd ei wasanaeth ef o fawr werth. Dengys rhestr pregethwyr Robert Parry y byddai efe yn pregethu yn achlysurol yn Llanllyfni, ac felly, mae'n debyg, mewn lleoedd eraill yr un modd. Gwnawd ef, ebe John Jones, yr hyn y dywed yr Arglwydd wrth y proffwyd y byddai iddo ei wneud ef, sef yn "gyweiriwr llwybrau i gyfaneddu ynddynt." Edrydd John Jones, ar ol Mr. Griffith Lewis, am dano yn gwneud y sylw yma yn y seiat dan wylo: ydych yn cymdeithasu rhy ychydig â Mab Duw. Dyma yr achos fod gennych gyn lleied i ddweyd am dano yn y seiat. Pe deuech i fwy o gymundeb âg ef, amlygai yntau ei hun i chwithau. Ac yna chwi a gaech weled mwy o'i hawddgarwch gogoneddus." Yr oedd yn meddu ar hynodrwydd mewn gweddi. Efelychiad o John Jones. Talsarn yn ei weddi ym mhob peth oddigerth mewn dawn. Pwysleisiai ar fyned at Dduw mewn gweddi ym mhob rhyw amgylchiad. Yr oedd yn gryn ddarllenwr, a chanddo gof rhagorol. Darllenai y Gwyddionadur, y Traethodydd o'i ddechre, Geiriadur Charles, Gurnall, rhai o draethodau y Dr. Owen, Jonathan Edwards ar y Prynedigaeth ac ar y Serchiadau, ac Athrawiaeth yr Iawn Lewis Edwards. Galwodd gyda John Jones Brynrodyn rai wythnosau cyn y diwedd gan ei gymell i ddod i'w gynhebrwng. Dywedai y