Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/314

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'O! na buasai modd i'r ddaear agor i'm llyncu i ddiddymdra,' oedd fy nymuniad. Rhodiwn ol a blaen mewn pangfeydd o anobaith. Pa beth a wnaf? Nis medraf weddio yn well. A dyma'r cyfan yn ofer! canys nid oes gennyf brawf i'r gwrthwyneb.' Ond tra yn synfyfyrio ar fy nhrueni fel hyn, heb fod ynof y duedd leiaf i edrych am wawr gobaith, clywais lais o'r tu ol imi yn dywedyd yn glir a chroew, Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith.' Bellach, gwaeddais Diolch! nerth fy mhen. Y fath gyfnewidiad! Y mwyaf truenus o bawb y funyd o'r blaen, ond yn awr yn methu ymgynnal gan lawenydd a dedwyddwch. Yna, yn y fan a'r lle, gwnaethum gyfamod â'r Arglwydd, a adnabyddaf mwyach fel Cyfamod Glan y Môr. Addunedais, ond i'r Arglwydd fy amddiffyn a'm cadw a'm harwain drwy'r byd hwn yn ddiogel i'r gwynfyd yn y nesaf, yr ymgysegrwn i'w waith a'i wasanaeth. Wedi agos i 30 mlynedd, naturiol ydyw ymholi, pa beth sydd wedi dod o'r Cyfamod? Rhaid imi addef mai anffyddlawn fum i; ond y mae'r Arglwydd wedi para yn ffyddlawn, ie, yn ffyddlawn er fy anffyddlondeb i. Er cywilydd i mi fy hun, rhaid imi addef fy mod, nid yn unig wedi peidio â chadw i fyny delerau y cytundeb, ond wedi bod yn euog o gynllunio gweithredoedd fuasai yn drosedd o'r cyfamod, ac a fuasai yn arwain i bechodau, er nad oeddwn yn bwriadu hynny. Ond, ie, ond !-codai rhyw rwystrau anweledig, ac anhysbys i mi, fel na chyflawnwyd y gweithredoedd arfaethedig; a dyma fi hyd yma wedi fy nghynnal a'm cadw rhag pechodau rhyfygus. Ac nid oes gennyf reswm dros hyn ond fod yr Arglwydd yn ffyddlawn i'w gyfamod. Ac wrth ystyried hynny, byddaf yn barod i ddweyd fel y bardd:

Rhaid oedd bod Rhagluniaeth ddistaw,
Rhaid oedd bod rhyw Arfacth gref,
Yn fy nghadw heb i'm wybod
Wrth golofnau pur y Nef.

Fy nymuniad yn awr ydyw ar i'r Arglwydd faddeu fy nghrwydriadau, fy nychwelyd a'm diwygio."

Dewiswyd yn flaenoriaid: Thomas Powell, William Griffith, John Owen Williams, a William Jones Penbrynmawr, ŵyr William Owen. Thomas Powell yn arweinydd y canu ers dros 30 mlynedd cyn hyn. Codwyd i'w gynorthwyo ef, W. Parry, athraw Ysgol y Bwrdd. G. G. Owen yn ymadael i Garmel, yn flaenor yma er 1893. "Gwr hynaws a charuaidd a ffyddlon. Hir gofir ei gyng-