Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/320

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyflawnder o oleu y dydd drwy'r ffenestri, a'r nos drwy'r lampau pres, ebe S. Jones; ac eidduna ef oleu o ffynonnell uwch ar gynulliad y saint. Efe a ddywed, hefyd, fod y capel yn un cynnes, am fod dau borth ymlaen iddo, un ar bob ystlys, a'r dorau yn y rhai hynny, a'r dorau i fyned ohonynt i'r capel yn gweithio ar dwythelli. Y dorau, fel y ffenestri, yn pwyntio tuag i fyny. Cyfrifid yr holl draul yn £1,235. Cludwyd yr holl ddefnyddiau yn rhad gan J. Lloyd Jones, a gwnaeth eraill o'r teulu eu rhan yn y gwaith. Rhoddwyd math ar agoriad i'r capel ar nos Lun, Chwefror 27, 1865, pryd y traddodwyd darlith ynddo gan David Saunders ar lywodraeth y Pab. Yr elw oddiwrth y ddarlith, £20. Y noswaith ddilynol, dechreuwyd y gwasanaeth gan Owen Jones Plasgwyn, a phregethwyd gan John Griffith Bethesda a D. Saunders. A'r diwrnod dilynol, am 10, dechreuwyd gan John Jones Brynrodyn, a phregethwyd gan D. Saunders a John Phillips. Am 2 a 6, de- chreuwyd gan W. Hughes Talsarn, a phregethwyd gan W. O.Williams Pwllheli a D. Jones Treborth.

Bu traul pellach o £30 i ddiddosi muriau'r capel oddiallan. Codwyd hefyd dŷ capel. Rhif yr eglwys yn 1865, 75, sef cynnydd. o 25 er agoriad yr Ysgoldy bach. Plant yr eglwys, 30. Athrawon yr ysgol, 22; ysgolheigion, 146. Cyfanrif 168. Y gwrandawyr, 224. Ardreth eisteddleoedd, £28 6s. Casgl y weinidogaeth, £28. Y swm a ddefnyddiwyd o arian yr eisteddleoedd at y weinidogaeth, £11 3s. Casgl at yr achos cenhadol, £7 19s. I'r tlodion, £25. Swm y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn, £500, ac felly ar ddiwedd 1864, yr hyn a ddengys fod £725 wedi eu talu erbyn gorffen yr adeiladwaith. Gosodid 220 o'r eisteddleoedd, allan o'r 320 a gynwysai'r capel. Cyfartaledd pris eisteddle am chwarter, 7½g. Yn 1867 dewiswyd William Thomas a J. Michel Owen i'r swyddogaeth.

Yn 1872, rhoddwyd galwad i Evan Owen i fugeilio'r eglwys. Yr ydoedd yn trigiannu yma ers tro. Nid ymddengys fod yr alwad yn golygu dim cyflog ychwaith, namyn cymeradwyaeth o'i gymeriad a'i lafur. Arosodd yma fel bugail yr eglwys am 14 blynedd, ac yr oedd ei lafur yma yn llafur cariad ym mhob ystyr i'r ymadrodd. Anrhegwyd ef â thysteb ar ei ymadawiad. (Am sylwadau pellach arno, gweler Seion a Thalsarn).

Bu cynhebrwng William Thomas ar Fehefin 14, 1873. Yn