Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/325

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amryliwiog a'r hen gapel, megys ag yr oedd hwnnw yn ei ddis- gleirni cyntefig, ond mewn dull chwaethus a chyfaddas a chlws. Ac os ffyddlon yr eglwys yn yr Hen Ysgubor, nid llai ffyddlon ydyw ym mangre ei phreswylfod presennol. Syniad Mr. O. J. Hughes am y swyddogaeth ydyw, ei bod yn ogyhyd ei hesgeiriau, ac am yr eglwys, ei bod yn cadw undeb yr Ysbryd ynghwlwm tangnefedd. Rhagora'r gynulleidfa mewn cysondeb yn yr holl foddion.

Fel hyn y dywedai ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul (1885): "Yma, ac mewn rhai ysgolion eraill, llafurir dan beth anfantais, am nad oes yma ystafell ar wahân i'r plant, a theimlir y diffyg o hynny yn y dosbarthiadau ieuengaf. Ysgol weithgar er hynny, yw hon, a selog bob amser a pharod, i hyrwyddo pob symudiad yn dwyn perthynas â'r ysgolion Sul. Ystyriem y dosbarthiadau canol yn bur hyddysg mewn gwybodaeth ysgrythyrol, a chaem rai o'r athrawon ac o'r athrawesau yn ymdrechgar i gymhwyso gwirioneddau'r Beibl adref ar ystyriaeth y disgyblion."

Rhif yr eglwys yn 1900, 195; y plant, 142.