Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/328

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Medi 29, 1879, y bu farw y Parch. W. Hughes. Yr oedd ef yn wyr i William Dafydd, y pregethwr cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yn Llanllyfni. Cafodd y fraint o'i fedyddio gan Mr. Lloyd Caernarvon. Hoffter neilltuol at ddarllen yn blentyn. Cyn bod ohono yn ugain oed yr oedd wedi myned drwy'r Beibl liaws o weithiau, ac yr oedd llawer ohono o'r pryd hwnnw ymlaen yn ei gof. Wedi cyrraedd deunaw oed, ar ol bod am flwyddyn mewn ysgol yng Nghaer, fe gafodd le fel cyfrifydd yng Nghloddfa'r Lôn. E fu yn y swydd honno am 41 mlynedd. Wedi ei eni yn 1818, fe'i gwnawd yn flaenor yn Llanllyfni yn 1842, ac yn 1844 fe ddechreuodd bregethu yn Nhalsarn. E fu am ysbaid yn Cesarea. Bu'n arholydd y Cyfarfod Ysgolion yn ystod 1852-70. Ymunodd â Hyfrydle am y tybiai fod mwy o angen ei wasanaeth yma. Gwr chwe troedfedd o daldra, teneu ac esgyrniog, â golwg difrif arno. Llygaid go fawrion, llym eu hedrychiad. Arafaidd, pwyllog, penderfynol ei ffordd. Cerdded â'i ben yn isel, a chamu ymlaen fel gwr yn mesur tir, pob cam yn llawn llathen. Gofalu am le sych i ddisgyn arno ar y ffordd. Tuedd at absenoldeb meddwl gyda'i orchwyl yn y chwarel. Mynnu popeth yn iawn er hynny. Synwyr da a barn ei brif nodweddion fel meddyliwr. Llefarwr diwastraff. Chwilio dipyn yn hamddenol am eiriau cymeradwy. Fel bugail eglwys, araf yn dod i adnabod ei braidd; ond yng ngrym callineb a phwyll yn arweinydd llwyddiannus. Argyhoeddai bawb o'i degwch. Porthai braidd Duw â gwybodaeth ac â deall. Ar y blaen gydag achos addysg. Y prif ysgogydd gyda'r ysgol ddyddiol a gynelid yn y capel, ac wedi hynny. Casglodd lawer tuag ati. Gweithredai hefyd fel ysgrifennydd. Etholwyd ef drachefn ar y Bwrdd Ysgol, a dewiswyd ef yn ysgrifennydd. Iddo ef yn bennaf o bawb y mae'r ardal yn ddyledus am ofalu am addysg y trigolion yn yr amser a fu.

'Roedd ôl cymundeb â'r ysbrydol fyd
Yn amlwg ar ei feddwl

Tua llinell y priodol
Safai ef mewn gair a moes
Gwylio byddem ar ein tafod
Yn ei bresenoldeb ef:
Mwy effeithiol na'n cydwybod
Ydoedd ei esiampl gref.

Dyma egwyl ymddifyrru
Gyda'i deulu wedi dod.