Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/330

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tebygrwydd hwnnw fwyaf, sef yn y wên ysgafn, y chwerthiniad isel yn y gwddf, y troi ymaith yn ffrwt. Gwelid y tebygrwydd, hefyd, yn sydynrwydd eu hysgogiadau. Nid oedd gryfed cymeriad a'i frawd, ac, yn enwedig, yr oedd cylch ei feddwl yn llai. Fel ei frawd, yn wr call, ymarferol, ymroddedig iw orchwyl, o argyhoeddiadau crefyddol, ac yn wasanaethgar drwy gydol ei oes gyda'r achos. Bu ef yn oruchwyliwr am flynyddau ar chwarelau Coedmadoc a Chloddfa'r coed, ac enillodd ymddiried meistriaid a gweithwyr. Fel blaenor yn Hyfrydle, bu'n ffyddlon dros ystod ei dymor: ni fu neb mwy felly yma. Mewn pethau yn dwyn perthynas â gwedd allanol yr achos y rhagorai. Yr ymarferol oedd ei gylch; ac ni honnai yntau bethau rhy uchel iddo. Dyma eiriau Mr. W. Williams am dano yn y wedd honno arno: "Dyn y pethau bychain ydoedd yn hytrach na'r pethau mawr. Ac anaml y gwelwyd neb yn adnabod ei le a'i waith yn well nag ef. Nid oedd neb yn fwy parod i gyflawni unrhyw wasanaeth a fyddai ei eisieu gyda'r achos; ac nid ymaflai yn unrhyw orchwyl na fedrai arno. A pha beth bynnag yr ymaflai ei law ynddo, fe'i gwnae a'i holl egni-yn brydlawn a thrwyadl. Bu am flynyddau yn arolygu chwareli, ac ystyrrid ef yn un o'r goruchwylwyr mwyaf medrus yn y Dyffryn. Nid oedd ei ofalon fel goruchwyliwr, chwaith, yn gormesu i raddau gormodol ar ei gysondeb a'i ffyddlondeb gyda'r achos crefyddol. Er mai efe oedd yr aelod a'r swyddog hynaf yn yr eglwys, a bod ei amgylchiadau a'i safle yn y byd dipyn uwch na'r cyffredin, nid oedd oherwydd hynny am gael mwy o sylw a gwrandawiad na'r lleiaf o'r swyddogion. Yr oedd yr elfen anhunanol hon yn ei ymwneud â'r swyddogion yn werthfawr iawn ynddo."

Symudodd H. Menander Jones yma o Garmel yn 1893, a galwyd ef i'r swyddogaeth yma, megys ag yr ydoedd o'r blaen yng Ngharmel. Efe yr olaf yn Arfon a alwyd i'r swydd heb bleidlais ddirgel.

Ar ei ymddiswyddiad fel gweinidog Tanrallt yn niwedd 1893, ymaelododd Mr. Owen Hughes yma.

Arweinwyr y gân ar ol Thomas Jones y crydd: Henry Hughes (Tanrallt), Trevor Owen Lewis, Owen Roberts, William Owen Jones, J. O. Jones.

Dyma adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol: "Ysgol fywiog, wedi ei threfnu yn dda, ac yn meddu ystafell gyfleus i'r