Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/336

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nyddieu'r llongau hwyliau. Yr holl baratoi lluniaeth, a phethau eraill, ar gyfer y fordaith; a neb yn meddwl cychwyn ar y fath daith heb wneud ei ewyllys cyn cychwyn. Byddai'r fordaith yn parhau am wythnosau o leiaf, ac weithiau, â'r gwynt yn erbyn, parhae am fisoedd,—a'r rowlio fyddai yn y Bau o Bisci, a phrofiadau eraill! 'Ond nid fel yna y mae hi yn ein dyddiau ni. Mae'r stemars mawr yma yn croesi mewn wythnos, a llai. Pan fydd y teid yn erbyn, a'r gwynt yn groes, mae'r stêmer yn mynd yn i blaen er y cwbl yngrym y gallu oddifewn. A synnwn i ddim, bob yn dipyn, na ddaw'r llestri yma sydd â'r fath allu oddifewn ganddyn nhw, i groesi'r Atlantig yma yn gynt eto,—yn ddigon cyflym fel y gall pregethwr o Rosgadfan fynd am gyhoeddiad Saboth i New York, dychwelyd ar ol y Saboth, a hwylio tuag yno erbyn y Sul drachefn, ac wedi cael digon o amser gartre i wneud. pregeth newydd! Gallu cryf ydyw'r gallu oddifewn. Yr unig grefydd ddeil ei thir ydyw crefydd sydd mewn egwyddor yn y galon. Daw ryw wynt a theid croes i rwystro pob crefydd arall. Yr oedd Robert Jones yn nodedig o gyflawn ac yn nodedig o barod." Dyna ddisgrifiad ei hen weinidog ohono. Yr oedd ei ymddanghosiad a'i oslef yn fanteisiol iddo, a'i ddull yn ddawnus, yn gyfryw fel yr oedd y pethau a draethid ganddo yn cael eu gosod allan yn y dull mwyaf effeithiol. Yr oedd yn gryn fyfyriwr o'r Beibl. Gallai osod allan bynciau athrawiaethol mewn gwedd ymarferol. Danghosai yn fynych barodrwydd i lefaru heb baratoad uniongyrchol. Medr i ddwyn ymlaen y cyfarfodydd eglwysig mewn modd buddiol ac adeiladol. Pethau sychion gan eraill yn ymddangos ganddo ef yn iraidd gan wlith ffansi, ac yn rhoi allan arogledd y boreuddydd. Yr oedd llewyrch dawn Glasynys arno yntau; ac heblaw dawn, difrifwch hefyd. Traddododd y cynghor i'r blaenoriaid yng Nghyfarfod Misol Horeb, Llanfairfechan, gydag afiaeth a gwir ddylanwad. Arweinydd a thad ydoedd ef.

Awst 5, 1898, bu farw y gweinidog. Ganwyd ef yn ardal Capel Uchaf, Clynnog, Mawrth 1, 1868. Ymroes i lafur fel efrydydd yn wyneb llesgedd corff. Dioddefodd lawer o gystudd yn ddirwgnach. Dywedai ei feddyg am dano, "Dyna fachgen nad oedd neb yn ameu dim ar ei grefydd." Ysgrifennu yn ei ddyddlyfr, "Edrych i'r bedd cyn edrych i wyneb temtasiynau." Cafwyd y pennill hwn. ymhlith ei bapyrau: