Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/338

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BRYNRHOS.[1]

YN niwedd 1877, mewn cyfarfod athrawon yn ysgol Brynrodyn yr awgrymwyd y priodoldeb o gychwyn ysgol Sul yn y rhan uchaf o'r gymdogaeth. O'r rhan honno o'r gymdogaeth yr oedd tua milltir o ffordd i'r capel, a chwynid mai anhawdd ydoedd i wragedd a phlant a hen bobl fyned deirgwaith ar y Sul i'r pellter hwnnw, a bod lliaws yn esgeuluso'r ysgol o'r achos. Ar yr 21 o Fawrth, 1879, y cychwynnwyd yr ysgol yn Ysgol y Bwrdd Penfforddelen. Thomas Williams Ty'nrhos, blaenor ym Mrynrodyn, oedd yn fwyaf blaenllaw fel ysgogydd yn hyn, a chyda'r achos, drachefn, wedi ei sefydlu. Ymunodd 140 â'r ysgol, lliaws ohonynt heb fod yn yr ysgol ers 10 neu 15 mlynedd. Hugh R. Owen yr ysgolfeistr yn hynod ddefnyddiol gyda'r ysgol yn ystod ei thymor yn Ysgol y Bwrdd.

Pa ddelw bynnag, nid oedd dim llai mewn golwg o'r cyntaf na chapel. Yr oedd gwrthwynebiad cryf yn erbyn hynny ym Mrynrodyn. Eglurai'r Parch. John Jones yn y Cyfarfod Misol pa fodd y codwyd capel Brynrodyn, yn adeilad mawr, cryf a hardd, mewn man canolog, ar gyfer yr holl ardal; a'r fantais o gael y fath adeilad yn gyrchfan i'r fath gynulleidfa fawr, urddasol. Yn wyneb y cwynion nad oedd y capel ddim mewn lle cyfleus i lawer o'r bobl, fe ddywedai yntau fod y capel yn union yn y man y mynnai Rhagluniaeth iddo fod, heb fod angen am yr un arall i rannu'r gynulleidfa. Eithr pobl benderfynol oedd pobl y Groeslon. Ac wedi aml frwydr boethlyd, eu dadl hwy a orfu o'r diwedd yng Nghyfarfod Misol Caeathraw.

Prynwyd rhan o dir Lleiniau, ger Penbryn rhos, yn rhan uchaf plwyf Llandwrog, ar y ffordd o'r Groeslon i Garmel. Mesur y tir, 550 llathen ysgwar, a'r pris, £68. Oddiwrth Penbryn rhos y rhowd yr enw ar y capel. Gosodwyd y gwaith i Owen Owens Rhostryfan ac Owen O. Morris Tyddyn maensier am £900 1s. Y gwaith yn orffenedig, ynghyda phris y tir, £1,010.

Buwyd yn adeiladu yn ystod 1879-80, gyda'r ysgol yn y cyfamser yn cael ei chynnal yn Ysgol y Bwrdd. Y cyfarfod agoriadol ar y Groglith, Mawrth 26, 1880, pryd y gwasanaethwyd gan

  1. Ysgrif o'r lle. Ysgrif Morris William Jones. Nodiad y Parch. Isaac Davies ar Thomas Williams.