Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/343

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Un o heddychol ffyddloniaid Israel oedd "Nansi" Robert Jones, sef Ann Morris ei briod. O ran ei hysbryd yn llariaidd, ac â naws grefyddol arni, ac yn ei dydd yn un o brif athrawesau'r ysgol. Wedi'r oedfa am 2, yn y tŷ lle cynelid yr ysgol, pan geid pregeth yno ar dro, elai'r pregethwr i Danrallt i dê, sef i gartref Robert Jones. Wedi gorffen, neu cyn gorffen, ceid math o seiat fechan yno. Heb orchest yn fynych, gan naws grefyddol y lle, y troai'r wledd gorfforol yn wledd ysbrydol. Y gwir draws-sylweddiad a sylweddolid yn y gwir bresenoldeb. Ebe Robert wrth y pregethwr unwaith, os na ddywedodd hynny fwy nag unwaith, "Mae Nansi wedi dilyn crefydd ar hyd ei hoes heb gael cerydd unwaith." "Tewch, tewch, Robat," ebe Nansi, "os na chês i gerydd gin y bobol o, mi gefais gerydd lawer gwaith gan y Gwr i hun." Melynodd Nansi i'r nef fel tywysen lawn: mewn oedran teg, fel ysgafn o ŷd yn ei amser, y cludwyd hi i'r ysgubor gan Wr y Tŷ.

Yr oedd galwad yr eglwys i'r Parch. W. J. Davies yn cael ei gadarnhau yng Nghyfarfod Misol Gorffennaf 2, 1883.

Derbynid R. H. Hughes i'r Cyfarfod Misol fel pregethwr, Awst 9, 1886. Dechreuoddef bregethu yma. Ymfudodd i'r America, gan dderbyn galwad gan eglwys Bresbyteraidd.

Ymadawodd W. J. Davies i Frynaerau ar ei briodas, a rhowd galwad i'r Parch. Owen Hughes Gatehouse yn 1887. Cadarnhau yr alwad yng Nghyfarfod Misol Mehefin 13.

Dewiswyd Robert Williams Cae engan i'r swyddogaeth yn 1892. Ei dderbyn yng Nghyfarfod Misol Mehefin 20.

R. (Silyn) Roberts yn cael ei dderbyn yng Nghyfarfod Misol Awst 14, 1893, wedi dechre pregethu yma.

Ymddiswyddiad y Parch. Owen Hughes fel gweinidog yma yn cael ei dderbyn yng Nghyfarfod Misol Rhagfyr 11, 1893. Ymaelododd efe yn ol hynny yn Hyfrydle.

Yn 1897 y dewiswyd yn flaenoriaid Robert Pritchard Taldrwst a Henry Hughes Tŷ capel.

Ebrill 15, 1898, y bu farw Robert Jones Roberts, wedi ei alw i'r swyddogaeth ar sefydliad yr eglwys, 1882. Chwarelwr yn byw mewn tyddyn—Brynllidiart—braidd anghysbell, a chyda'r llwybr i'r capel braidd yn anhygyrch. Ffyddlondeb ei brif nodwedd.