Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn menu arno. Efe oedd yr olaf i ymostwng i'r drefn newydd gyda gofaint, pan na fynnent wneud pedolau o'r hen haiarn. Parhäi i ddwyn hen bedolau i'r efail, nes o'r diwedd i'r gof ei wrthod. "O'r gore, Wil," ebe yntau. "Cymodder, tro Bute," a throes am adref. Ond pan oedd wrth bont y ffactri, rhwd neu ddwy o'r efail, dyma floedd y gof ar ei ol, wedi newid ei feddwl erbyn hynny, "William Jones, mi wna i am y tro yma eto." "O'r gore, Wil. Cymodder, tro Bute." Eithaf tawel felly neu fel arall.

Bu'r gwr yma yn dilyn bwrdd y gwarcheidwaid am flynyddoedd. Byddai hefyd yn dilyn y vestri blwyfol, ac yn gyffredin yn ymyl y vicar. Anfoddlon braidd fyddai'r vicar i ddodi cynygiad heb fod wrth ei fodd gerbron. Wrth ei weled yn petruso, fe ddywedai William Jones, "Cantiwch hi bellach, Mr.———, i ryw ochr." Yn ddiweddar ar ei oes y daeth efe yn aelod eglwysig. Gwrandawr cyson, astud, cyn hynny, a ffyddlon yn yr ysgol Sul, ond yn rhy hoff o'r tŷ cwrw." Ar ol ei dderbyn ar brawf a chyn ei dderbyn yn gyflawn aelod, fe fyddai, bob wythnos neu ddwy, wedi dod un sêt yn nes i'r sêt fawr, nes bod yn y sêt nesaf ati pan dderbyniwyd ef yn llawn. Yn fuan wedi ei dderbbn daeth i'r sêt fawr ohono'i hun, a hynny heb neb yn ei feio. Yno hefyd y bu efe hyd y diwedd, yn edrych ar ol y swyddogion, fel y dywedai. Os byddai ambell un ohonynt yn o hwyrfrydig i gymeryd rhan, fel y byddai yn digwydd weithiau, fe'i cymhellai hwy i hynny mewn dull braidd yn geryddol. A chodai i siarad weithiau ohono'i hun, gan ofalu bob amser am fod yn fyrr, a theimlid ar brydiau y siaradai i bwrpas hefyd. Un tro fe gyffelybai ddyn yn treio credu i ddyn yn treio cysgu, yn troi ac yn trosi o'r naill ochr i'r llall, ac yn methu; ond erbyn y bore, mae'r dyn yn cael ei fod wedi cysgu rywsut, na wyddai sut na pha bryd. Felly gyda dyn yn treio credu. Er methu, deil o hyd i dreio; a phan ddeffry fore'r adgyfodiad, fe gaiff yntau ei fod yn rhyw fodd wedi credu, heb wybod pa sut na pha bryd.

William Prichard Brynhafod bach a fu'n dysgu'r wyddor i'r plant am 60 mlynedd. Gwr a wyddai nerth tawelwch ydoedd yntau. Ar adeg pan ddibynnid am fywiolaeth ar y cynhauaf yd, yr oedd yn wlyb iawn un tymor. Bob Sul ers tro hi fyddai yn sychu yn ddymunol. O'r diwedd, ar ol dod o'r oedfa un nos Sul, dyma William Prichard, gyda chymydog iddo, i'r ŷd, a dechreuodd ei gario i mewn. Y seiat nesaf dyma dorri'r ddau allan. Fe sorrodd y cymydog am ysbaid o'r achos; ond y seiat nesaf i gyd