Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyma William Prichard i mewn, a phan awd ato dywedodd air o'i brofiad heb gymeryd arno fod dim byd neilltuol wedi digwydd.

Dafydd Prichard Bryngoleu oedd un a ddaeth yn amlwg yn niwygiad 1859. Dilyn o hirbell cyn hynny. Fe ddaeth yn weddiwr hynod ar ol hynny. Fe gymerai ran mewn gweddi cyn y diwygiad, ond mewn llais mor isel fel mai o fewn cylch bychan y clywid ef. Yn nhymor y diwygiad fe dorrodd allan mewn bloeddiadau. Byddai Francis Williams y Filltir yn mawr fwynhau y bloeddio hwnnw, fel y chwarddai rhyngddo ac ef ei hun wrth wrando arno. Wrth fyned allan o un cyfarfod gweddi, dyma Francis Williams yn rhoi pwniad i dad David Jones Bwlchgwynt, "Glywaisti yr hen gâr yn i chael hi heno?" Bu dull esgeulus Dafydd Prichard gynt yn hir flinder i Francis Williams, canys yr oedd y ddau yn byw yn ymyl eu gilydd.

Gwr cymeradwy iawn, fel y gellir yn hawdd ddyfalu, oedd Francis Williams ei hun. Y chwarddiad hwnnw y sonid am dano dan floedd Dafydd Prichard, chwarddiad gwr a adwaenid fel un o ddifrifwch mawr ydoedd. Dywed Mr. David Jones y byddai rhyw dôn ddifrif yn ei lais mewn gweddi yn peri fod y sŵn ymhen dyn ar ol hynny.

Thomas William Tanyclawdd oedd weddiwr hynod arall. Teimlodd rhywbeth neilltuol yn niwygiad 1859, ac arosodd yng ngwres y diwygiad ar ol hynny, fel na byddai yn ymddangos fyth hebddo. Bu marworyn y diwygiad ar ei allor am hanner can mlynedd, ebe Mr. David Jones. Yn y cyfarfod gweddi pen mis, siomid y cynulliad os na byddai efe yn cymeryd rhan, a'r un fath yn y cyfarfod gweddi nos Sul, os byddai efe yn bresennol.

John Owen Tyddyn du oedd weddiwr hynod arall eto. Sylwa Mr. John Williams ar ddawn gweddi y cylch hwn, ac ar yr amrywiaeth a'i nodweddai. Dywed ef y tyfai pob pren yn ei ffurf briodol ei hun. Sonia am un y dywed ei fod yn neilltuol o flaen ei feddwl: nid oedd yn ddyn gwybodus ym mhethau byd nac eglwys; nid oedd yn athraw yn yr ysgol Sul, ac nid oedd yn amlwg fel atebwr yno; ni wyddai ddim am ddiwinyddiaeth fel y cyfryw. Torri cerryg ar ochr y ffordd oedd ei alwedigaeth. Ar ei liniau yn gyhoeddus yr oedd yn gyfoethog o fater, a'i weddi yn amlygu dirnadaeth gref o drefn yr efengyl, nes peri syndod i bawb. Deffroai'r teimlad o ddirgelwch wrth wrando arno, yn enwedig