Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiwrth fyfyrdodau mewnol yn fwy at waith allanol. John Jones Talsarn a'r Capten Owen Lleuar bach oedd yn cymeryd llais yr eglwys pan ddewiswyd Hugh Jones. Pan ddywedwyd mai Hugh Jones oedd wedi ei ddewis, dyma fo yn codi o'i gongl yn ei gôt ffustian a'i ddau lygad yn perlio, "Yr ydych wedi methu gyn sicred a bod y byd yn bod." Y mae John Jones yn gwenu, gan wneud dau lygad mawr arno. Y bachgen David Jones, yn awr o Bwlchgwynt, oedd yno yn cymeryd sylw. Gwr tra diniwaid yn ei ffordd ydoedd Hugh Jones. Yn chwarel Dinorwig yr oedd yn cydweithio â dyn arall. Nid oedd Hugh Jones nemor o chwarelwr, a gwelai fod ei gydweithiwr yn chwarelwr dan gamp. Ni fu'n hir cyn myned at y goruchwyliwr, Griffith Ellis, a gofyn iddo a oedd ganddo ddim gwaith arall a allsai efe gael arno'i hun? "Beth sydd ar y gwaith?" gofynnai'r goruchwyliwr. "Mae'r hogyn acw,' ebe yntau, "yn cael cam ofnadwy efo mi: mae o cystal a dau; nid ydw'i ddim ffit efo 'nacw." Arferai Griffith Ellis ddweyd ar ol hynny na welodd efe mo neb yn y chwarel gyn onested a Hugh Jones: fe welodd lawer yn cael cam drwy weithio gydag eraill anfedrusach, ond ni welodd mo'r gwr anfedrus yn dod i gwyno dros y llall yr un tro arall. Bu'n gweithio yn galed, a byw yn galed ar ei dyddyn llwm, uchelbris, ar lecyn uchel. Byddai ef a'i deulu yn cludo pridd mewn piseri o'r gwaelodion er mwyn cyfoethogi'r tir. "Yr hen grachen acw" oedd ei enw ef ar y lle. Ond os gwr tlawd, rhaid bod yn wr gonest. "Mae gennyf ddwy neu dair o silod o ddefaid acw," ebe fe wrth Mr. John Jones Llanfaglan. Mr. Jones yn cynnyg fel ar fel am danynt. "Mae arnaf ofn y cewch eich twyllo ynddyn nhw, John: mae'r niwl yma wedi peri i chwi feddwl yn rhy dda ohonyn nhw." Pe meddyliasai ei fod yn cael cynnyg rhy isel, fe ddywedasai ei feddwl yr un mor agored, ebe Mr. Jones. Gwerthu buwch yn y ffair yng Nghlynnog. "Mae ganddi bwrs go dda," ebe'r prynwr, gan wybod, mae'n debyg, gyda phwy yr oedd yn delio. "Na," ebe yntau, "hen bwrs cigog ydi o." Mynd â'r merlyn i'r ffair gyda'r carchar am ei wddf er dangos i bawb mai anifail barus ydoedd. "Ni werthwchi mono fo gyda'r carchar am ei wddf," ebe rhywun wrtho. Eglurai yntau y gallsai wneud i ambell un fel yr ydoedd, ond nid iddo ef: yr oedd am i'r math hwnnw o brynwr ei gael na byddai'r anifail yn golled iddo. Dygai ei deulu i fyny yn ei egwyddorion ei hun, a chyfarchai y naill y llall yn y tŷ yn y person unigol; ond ni feddai awdurdod briodol tad. Galwodd gwraig o Bwlchderwyn gydag ef, a phryn-