Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nodd un o'r moch bach ganddo. Yna gofynnodd y wraig ymhellach, pa faint oedd arno eisieu am ryw fochyn bychan oedd yno, y lleiaf o'r torllwyth. "Pymtheg swllt," ebe yntau. Yr oedd un o'i ddau hogyn yno yn gwrando, nid yr un a aeth yn bregethwr, yr hwn a dynnai yn fwy at deulu ei fam, ond y llall mwy diniwaid, gwir ddelw ei dad. Torrodd hwnnw allan yn y fan, " 'Rwyti yn gofyn gormod," ebe fe, "mi fuasai chweugain yn ddigon am dano." Y tad yn ildio i bris yr hogyn. Pan tarewid arno ar y ffordd, nid arosai i gael sgwrs efo neb o'i gymdogion. Dechreuai gyfarch mewn tipyn o bellter, a pharhae yr ymddiddan ar ol myned ohono heibio. Fe roe'r argraff ar rai fod ei galon ef eisoes wedi ei llwyr roddi i nesu at Un arall. Ond ni byddai nemor sgwrs i'w gael gydag ef pan ddigwyddid ei ddal dipyn ar y ffordd, neu pan gydgerddid âg ef. Rhaid oedd ei glywed ar ei liniau, neu'n darllen rhan o'r ysgrythyr, gan osod y synwyr allan, neu ynte yn rhoi cyfarchiad. Yr oedd yn rhaid cymell a dirgymell weithiau cyn y ceid ef i siarad. Pan godai, troai at y pulpud, gan wasgu ei ddau lygad yn dynn, a dechreuai dywallt allan ei fyfyrdodau. Nid cyfarch yn briodol y byddai, ond myfyrio yn uchel, a ffrwyth ei fyfyrdod a'i brofiad yn ymdywallt allan, a phawb yn ymwneud i wrando. Bernid mai myfyrio yn llyfr y gyfraith y byddai ddydd a nos, a phan gyda'i orchwyl hefyd, ac am hynny nid ymadawodd llyfr y gyfraith hon o'i enau, canys er bod ohono yn hwyrfrydig i godi, wedi codi fe welid ei fod yn fynych fel costrel ar dorri gan win newydd. Fel y gallesid meddwl am wr o'r nodwedd yma, mewn gweddi y byddai hynotaf. Ac er fod gweddiwyr eraill hynod yn y Capel Uchaf, fe fyddai efe ar adegau yn hynotach na phawb, ac uwchlaw iddo'i hun. Yr hyn oedd hynod ynddo ydoedd, nid yr hyn oedd dan glo ei ewyllys, ond yr hyn a ddiangai oddiwrtho pan wedi anghofio'i hun. Yna fe fyddai ei feddwl fel ar ehedfa; ac ar ei adegau uchaf ni theimlid yn ormod dweyd ei fod fel angel yn ehedeg ynghanol. y nef a'r efengyl dragwyddol ganddo. Y plentyn a ddeuai i'r golwg ynddo mewn gweddi, a byddai ar adegau fel gwr yn llefaru wyneb yn wyneb â Duw. Eithr fe'i ceid ef hefyd ar yr un weddi weithiau, ar ol codi yn uchel, yn disgyn i lawr drachefn, a'r arucheledd coeth wedi ei lwyr golli Mae sôn am ryw weddi hynod iddo, pan lwyr-lyncid ef yn y pethau a lanwai ei fryd. Elai ol a blaen yn y sêt fawr ar ei liniau, ac yr oedd y lle fel wedi ei lapio mewn distawrwydd ac ofnadwyaeth. Pan fyddai yn gyndyn iawn i wneud dim, neu wedi ymollwng o ran ei brofiad, ei gyd-flaenor,