Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Griffith Jones, a'i cyfarchai, "Cofia am yr hen weddi fawr honno!" "Paid a son wrtha'i am dani hi," ebe yntau. Prun ai siarad ynte gweddio y byddai, y ddau begwn y troai ei fyfyrdod arnynt fyddai, lladd arno'i hun a chanmol y drefn. Er mwyn yr achos gallai fod yn frwnt wrtho'i hun. Er cyrraedd erbyn un arddeg ar y gloch yng Nghyfarfod Misol Rhyd-ddu, cododd am ddau y bore, bu wrthi yn lladd gwair am bum neu chwe awr, ac yna cerddodd i Ryd-ddu. Tua diwedd ei oes, wrth daer erfyn am i'r Ysbryd gael ei ddanfon yn gymorth, fe gwynai, "Yr ydym wedi myned yn wan trwom." Ar ei wely angau, fe'i cafwyd ef gan Mr David Jones yn isel ei deimlad: nad oedd efe ddim ond wedi chware gyda chrefydd, nad oedd y cwbl ond rhagrith, a mynnai mai dyn anuwiol ydoedd. "Tybed? gofynnai Mr Jones. "O, ie," ebe yntau, "'dydw'i ddim wedi fy ail-eni." "Mae'ch enw ar lyfr yr eglwys, ac yr ydych yn swyddog yn yr eglwys." "Beth ydw'i haws? Dyn anuwiol ydw'i." "Wel, os felly, mi roi'ch achos chwi i lawr yn y seiat nesaf, er cael tynnu eich enw i ffwrdd oddiar lyfr yr eglwys." "I beth y gwnei di hynny, 'rwyti yn meddwl?" "I chwi gael ymollwng iddi, ac actio'r dyn anuwiol yn yr ardal yma." "'Dwyti ddim ffit yn y byd ! Na, dal ati wna i, fel y delo hi, bellach." Yr oedd Hugh Jones yn esampl ddiweddar o ddosbarth wedi myned i golli, ac am ei fod yn ddiweddar haws oedd cael defnyddiau y mymryn portread hwn ohono. Bu lliaws cyffelyb iddo yn y wlad, ond nid mor hawdd bellach dodi'r rhith ohonynt a erys mewn coffadwriaeth yn llun go fyw o flaen y llygaid. Enghraifft dda ydoedd efe o'r gwladwr syml, agored, na thybiasid fod nemor ddim, neu ddim neilltuol ynddo ef onibae i'r Efengyl gipio gafael ynddo, ac yna fe ganfyddid ynddo, yn neilltuol fel y gwelid ef ar adegau, adenydd agored cerubiaid, gwialen yr Archoffeiriad yn dwyn almonau, a llewyrch y Secina.

Yn 1898 y bu farw Griffith Jones Coedtyno, wedi bod yn y swydd o flaenor er 1853. Yr oedd efe a Hugh Jones yn amlwg ar y blaen efo'r achos o fewn yr ugain mlynedd diweddaf o'u hoes, sef ar ol marw Owen Jones. Y flwyddyn o flaen Griffith Jones y diangodd Hugh Jones ymaith. Ar ddieithrddyn yr oedd yr argraff oddiwrth Griffith Jones gryn lawer yn fwy dymunol nag oddiwrth Hugh Jones. Gwr llednais, boneddig wrth natur oedd Griffith Jones, a gras wedi ei brydferthu. Er bod ar y blaen, ni chwenychai mo'r blaen. Er cymaint a wnelai o "weddi fawr" Hugh Jones, gweddi ferr a syml ydoedd yr eiddo ef ei hun. Ei feddylfryd