ddau hyn mai ysbryd wedi ei drwytho yng ngwirioneddau'r Beibl sy'n bwysig, a bod yn llawn ffydd ac o'r Ysbryd Glan, gan gynnal cymundeb agos â Duw mewn gweddi. Mewn disgyblaeth, fe safai'n gryf dros anrhydedd crefydd. Mynych y gwelwyd rhai wedi ffromi yn aruthr yn wyneb y ddisgyblaeth, ond cyn bo hir, ond odid na cheid arwyddion fod cydwybod y cyfryw yn cymeradwyo, a'u bod yn gorfod parchu y sawl a geblid ganddynt o'r blaen. Ni ddangosai nwyd ar achlysuron o ddisgyblaeth, ond edrychid â difrifwch ar y trosedd yn wyneb cyfraith Crist. Y rhan amlaf, cyn dod gweinidog yma, ychydig ddywedid ganddo brynhawn diwrnod seiat, gan fel y pwysai'r cyfrifoldeb o'i chynnal ar ei feddwl. Ar ol i weinidog ddod, fe deimlai rhai ei fod yn taflu gormod o'r cyfrifoldeb oddiarno'i hun. Yn ystod y gaeaf diweddaf iddo, fe siaradai lawer am ei ymddatodiad, a hiraethai am fwy o adnabyddiaeth o'r Arglwydd Iesu Grist, ac o gymdeithas âg ef. Mi synnai lawer ato'i hun, ar ol oes faith o'i ddilyn, na buasai ei adnabyddiaeth ohono a'i gariad ato yn llawer helaethach; a choffhae eiriau'r Iesu wrth Phylip,—A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Phylip? Yr oedd ei fab, Robert, o'r America, yn holi am ei brofiad ysbrydol. Gwylaidd ydoedd i ddweyd dim. Wrth ateb Robert, pwyswyd arno i ddweyd ei feddwl. Gorchmynodd droi i Esaia xli., 10, mai dyna'i ateb,— Nac ofna, canys yr ydwyf fi gyda thi; na lwfrha, canys myfi yw dy Dduw: cadarnhaf di, cynnorthwyaf di, hefyd, a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder." (Drysorfa, 1891, t. 349.)
Bu Ann Parry, priod Henry Parry Fronheulog, farw Hydref 13, 1889, yn 74 oed. Merch Hugh Morris ydoedd hi. O feddwl cryfach na chyffredin, cystal a gwybodaeth eangach ac ymroddiad crefyddol amlycach. Elai i'r seiat yn y Capel Coch yn llaw ei thad, er y gwrthwynebid i blant fod yno. Pwnc o argyhoeddiad gan Hugh Morris oedd magu ei blant yn y seiat, ac nid gwr oedd ef i newid ei arfer er mwyn eraill yn yr hyn yr oedd wedi llunio'i argyhoeddiad yn ei gylch. Ond os ydoedd efe'n benderfynol am fyned a'i blentyn i'r seiat, yr oedd Neli, un o'r hen wragedd oedd yno, yn benderfynol yn erbyn, a thraethai ei meddwl ar dro mewn llais croch. Ond, wele, Evan Richardson, y gwr mwyn yn y seiat yn y Capel Coch! Dyma gyfle Neli ynte, ac wele draethiad llym yn erbyn dwyn plant i