Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Davies Tan Elidir, a fu mor amlwg fel crefyddwr am yr hanner cyntaf o'r ganrif." Bu yng Nghlynnog ryw gymaint dan addysg Eben Fardd. Ni fyddai'n myned lawer i bregethu. Dichon fod ei alwedigaeth yn y chwarel yn rhwystr. Rywbryd yn ystod 1891-2 fe aeth i'r eglwys wladol. Nid yw ei enw yn rhestr y pregethwyr ar ol 1892. Dychwelodd yn ol o'r eglwys, ac ymawyddai am ei alw yn bregethwr o'r newydd. Yr oedd bwriad gan yr eglwys gyflwyno'i achos i'r Cyfarfod Misol, pan fu farw. Medrai siarad yn rhwydd ac i'r pwrpas mewn cynhulliad cyffredin.

Bu Catherine Williams Ysgubor farw yn 1897, yn 79 oed. Sylw H. H. Parry arni: "Un o'r rhai hynotaf o aleodau'r eglwys. Yr oedd teulu'r Ysgubor yn adnabyddus o fewn cylch eang am eu crefyddolder a'u sêl. Meddai Catherine Williams barch mawr i weinidogion yr Efengyl. Bu'n cadw'r tŷ capel am flynyddoedd. Yno y lletyai'r pregethwyr o'r dechre, a hyfrydwch ei chalon oedd gweini arnynt. Bu'n selog ar hyd ei hoes yn yr ysgol, a meddai ar gydnabyddiaeth helaeth â'r Beibl, a ddeuai i'r golwg wrth iddi adrodd ei phrofiadau."

Sylwir gan H. H. Parry fod eglwys Dinorwig wedi cael ei rhan o ddynion cryfion, a adawodd eu hol arni; bod eu llyfr- gelloedd yn aml yn fychan, ond mai dynion yn bwyta'r llyfr oeddynt; a bod tybied y posibilrwydd o brinder dynion cryfion yn yr eglwysi yn chwithig iawn wrth feddwl am yr helaeth- rwydd, mewn cymhariaeth i'r amser gynt, o fanteision i ddeall y Beibl.

Fe olrheinir llinell H. H. Parry yma ar yr ysgol. Y colofnau yn yr ysgol ar ei chychwyniad yn 1800: Hugh Morris a'i frawd William Morris, William Roberts Tŷ coch, William Williams Tan y bwlch, William Rowlands Tŷ'n y fawnog (taid y Parch. W. Rowlands). Dyma enwau ffyddloniaid eraill: Rowland Owen Ty'n y coed, Hugh Thomas Tŷ'n chwarel, William Davies Tŷ newydd, Daniel Roberts Foel gron, Thomas Roberts Ysgubor, William Parry Ysgubor, Henry Parry Tail Sardis, Thomas Davies Penrallt, Evan Jones Tai newyddion, John Ellis, Griffith Ellis. Tybir ddarfod i'r ysgol aros yma hyd oddeutu 1810-12.

Yna fe symudwyd i Dan y bwlch, lle'r arhoswyd am tua 4 blynedd. Tra yn Nhan y bwlch, fe gyflwynwyd Beibl hardd i