Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wylfa. Y ddyled yma yn 1882, £678 14s. 9c.; yn 1883, £2119 13s. 1g.; yn 1900, £640 9s.

Yn 1886 dewiswyd yn flaenoriaid, Edward Ffoulk, John Evans, J. V. Williams, Richard Owen. Daeth Owen Griffith yma o'r Waunfawr yn 1891, a galwyd ef yn flaenor. Ymddiswyddodd J. V. Williams ymhen y 5 mlynedd. Ymadawodd R. H. Parry i'r Amerig ymhen yr 8 mlynedd. Dewi Môn a aeth at y Wesleyaid. Yn 1885 dewiswyd Thomas Currie. Adeiladwyd yr ysgoldy wrth y capel yn 1893. Talwyd am y tir £17, ac am yr adeilad, £258 14s. 8g. Cyfanswm, £275 14s. 8g. Eithr fe drowyd £2 yn ol o bris y tir. Cynnwys le i dros 250. Newydd orffen yr ysgoldy daeth darn o nenfwd y capel i lawr, ac aeth £80 i'w atgyweirio.

Mehefin 20, 1877, yn 60 mlwydd oed, bu farw John Pierce y Glyn, yn flaenor er 1867. Daeth i'r gymdogaeth yma o Landegai. Chwarelwr wrth ei alwedigaeth. Heb ond ychydig fanteision casglodd gryn wybodaeth. Gwr difrif; gweddiwr anarferol. Didderbyn wyneb. Credid ynddo fel gwr duwiol. Ffyddlon yn ei fywyd; tangnefeddus yn ei angeu. Addfedodd yn ei gystudd hir fel gwenith melynwyn dan barhaus dywyniad Haul Cyfiawnder, a chafodd y fraint, er gwaethaf cystudd, o weled glesni daear yn graddol ymnewid am eurlliw meysydd y goleuni.

Brodor o Fón ydoedd Thomas Phillips. Nid yr un gwr, dealler, a'r un o'r enw a ddaeth i'r ardal yn ysgolfeistr ac a godwyd i bregethu, sef ydoedd hwnnw, brawd i John Phillips, Bangor. Gwr hynaws a charuaidd, serchog ei wên a charedig ei eiriau ydoedd y Thomas Phillips yma. Fe oleuai caredigrwydd ei wynepryd. Bu'n arweinydd y gân am flynyddoedd yn Rehoboth, a dewiswyd ef i'r un swydd yma. Fe'i cyfrifid yn gerddor o chwaeth bur ynglyn â'r canu cynulleidfaol a chorawl. Wrth son am ei gymeriad yn gyffredin, mae sgrifennydd yn y Goleuad (1871, Rhagfyr 23), yn cymhwyso ato frawddeg o eiddo D. Charles Davies, sef, er fod y blodeuyn mor dlws, eto fod y tlws yn cael ei ogoneddu âg ystyr llawer uwch pan fo'r blodeuyn yn gristion; a dywed, hefyd, na welodd efe mo neb dyn mewn safle gyffredin wedi ennill parch mor gyffredinol. A darfu i Dduw sibrwd ei hynawsedd wrtho, megis y dywed Daniel Owen y gwnel yn wyneb pob blodeuyn tlws. Ac nid blodeuyn chwaith, canys, fel gyda Blodeuwedd, fe'i lluniwyd