Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ped agorid rhyw ddyfnder annisgwyliadwy ac ofnadwy mewn swyn yn enaid yr edrychydd. O'r uchter hwn mae dyfnder yn cyfateb yn yr olygfa o fewn y llyn, ac mae gwedd fwy tyner yn hytrach ar y cysgod na'r sylwedd, os nad, yn wir, yr hyn a welir yn nrych y llyn yw'r sylwedd a'r hyn sydd o'i amgylch y cysgod, yn gymaint a bod yr hyn a welir yn y drych heddyw wedi ei drwytho'n fwy yn enaid ac yn ysbryd yr edrychydd. Ar dro arall, wele hi'n noswaith loergan lleuad, ac ymhell ar y nos, pan mae'r dylanwadau cyfrin yn cripio dros yr enaid! A dyma hi'n gwbl dawel ar wyneb y drych, neu, fel arall, fe ymlidiasid y llun a'r swyn. Ac wele dynerwch newydd eto! Ymegyr coffr hir-gloedig yn y galon, a datguddir swyn odiaeth. Amlycach yw'r nefoedd yn nyfnder y drych ar loergan lleuad nag yn yr heulwen siriol. Ac heblaw hynny, mae pob llun a phob lliw wedi eu llarieiddio wrth eu trochi yn y lloer oleuni a'r distawrwydd a'r dieithrwch. Nis gellir aros yma'n hir: mae rhyw ysbrydiaeth heblaw ysbrydiaeth yr olygfa ei hun, ond a awgrymir ganddi, yn trechu'r galon.

Ond dyma olygfa o'r ochr arall i'r llyn, sef o ardal Cefn y Waun. Wele yma gymysg swyn a rhamantedd a mawreddusrwydd! I un cyfeiriad dyma fau Caernarvon, a dynesiad machlud haul, a bryniau'r Iwerddon odditanodd yn ymrithio allan o byrth y dirgelwch. O'r tu ol, dyna'r march-lynnoedd. yng ngheseiliau'r Fronllwyd a'r Elidir. Ar brynhawngwaith teg o haf hir felyn tesog, y fath a ddaeth i ran y Bardd Cwsg ar dro nodedig, gallesid hebgor ei spienddrych ef, a bod wedi ymgau yng ngardd rhyfeddod, heb awydd teithio fel a ddaeth i'w ran ef, pan hiraethodd am decach golygfeydd na'r eiddo'i wlad ei hun; a bod wedi derbyn ymweliadau amgenach tylwyth nag a ymwelodd ag ef, sef tylwyth teg yn wir, ac nid a elwir felly mewn gweniaith.

Ond eto, wyneber ar yr olygfa oddiar y bont yngwaelod y llyn. Dyma em o brydferthwch!-sef y llyn yn ymestyn ger gwydd yr edrychydd, a'r mynyddoedd yn ymgodi oddiarnodd, ac yn ymagor i'r pellteroedd. Dyma argraff o unoliaeth mewn amrywiaeth yn fwy nag o'r blaen: dyma brydferthwch pur. Nid tlysni, gan fod y mynyddoedd mawrion yn rhan o'r weled- igaeth; ond cynghanedd priodoleddau, yn tarddu o ymestyn- iad pell y llyn ac ymestyniad pell y mynyddoedd gleision o'r tu hwnt i hynny.