Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'r hafn rhwng clogwyni uchel, serth, a elwir y Nant uchaf yn cyffroi'r meddwl ar ymweliad cyntaf gan ei aruthredd a'i hyd maith. Ymestyn Llyn Peris i'r hafn yma yn rhyw filltir ac wythfed wrth dair wythfed o filltir yn y man lletaf. Llyn Padarn, yn is i lawr, ac yn gysylltiedig â Llyn Peris wrth wddf cul o ddwfr, sydd ddwy filltir o fewn rhyw ugain llath of hyd. Neu felly y dywed P. B. Williams am dano yn ei amser ef mewn llawysgrifen sydd gerllaw.

Mae'r hanesyn a adroddir o hyd am John Closs, y bachgen bychan saith oed a gollodd ei ffordd ar y mynydd, yn dolennu'r aruthredd a'r rhamantedd hwn a theimlad tyneraf y galon. Mab Robert Closs y tafarnwr o Lanberis ydoedd ef. Yr ydoedd wedi ei roi dan ofal nain yn Nant y Betws. Ar ol ymweliad ei fam, fe deimlodd gymhelliad i'w dilyn yn ei hol gartref, heb yn wybod iddi. Yr ydoedd braidd yn hwyr o'r dydd, ac yn y man hi ddechreuodd fwrw eira. Fe dybiai'r fam ar un man iddi glywed cri plentyn, ond bwriodd y dychymyg ymaith. Wedi ymchwil am dano dros ddeuddydd neu dri fe'i cafwyd yn farw wrth ymyl dibyn yn agos i gopa'r Foel Eilio. Mae'r teulu a honna berthynas âg ef yn yr ardaloedd hyn yn un lliosog, a gadawodd yr hanesyn bychan aeth yng nghalonnau nifer o honynt hwy ac eraill.

Ym mis Awst, 1797, y croesodd Warner yr Wyddfa o ochr Beddgelert, gan deithio ymlaen i Gaernarvon. Dyma ddyfyniadau o'i ddisgrifiad: "Yr oedd copa'r Wyddfa yn ymgodi uwch ein llaw tua'r gogledd a chnu o gwmwl yn ei amgau fel llen, gan ymdonni yn y gwynt. Yn y man, wele dynnu'r llen tuag i fyny nes gorffwys ohono fel coron ar gopa'r mynydd. . . . .Neshae'r haul at ei anterth. . . . Yn rhan gyntaf ein taith ni aethom i fyny lethr gerwin, y naill ochr i bistyll mynydd a'n syfrdanai fel y cwympai o sgafell i sgafell. Fe ddywedai'r arweinydd wrthym am William Gruffydd, a breswyliai o fewn ychydig flynyddoedd yn ol dyddyn y Llan, yr aethom heibio iddo yn y gwaelod, ac a breswylid yn awr gan fab i'r gwr hwnnw, yr elai efe, ac yntau'n henwr, yn gyson i farchnad Caernarvon ar gefn merlen fechan ar hyd y llwybr yr elem ninnau ar y pryd,—mewn peth braw gan ein sefyllfa awyrol,—a ddringai gydag ef rhwng clogwyni a thrwy gorsydd ac i fyny'r llethrau, gan ddisgyn yr ochr arall ar hyd llwybr yr un mor arw a serth a chreigiog, ac yr elai felly nos neu ddydd,