Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wele yma enghraifft o wr yn ymaelodi yn Nhwll y clawdd. Fel y deuai William Sion Caecorniog adref o Gaernarvon un nos Sadwrn yn rhyw hanner meddw, beth a glywai efe ond canu annisgwyliadwy yn Nhwll y clawdd. Gwr nwyfus ydoedd, a chan ei chwilfrydedd fe droes i mewn i'r tŷ, a beth oedd yno ond pregeth. Daeth o'r bregeth dan argyhoeddiad. Ni bu nemor cyn ymuno â'r ychydig enwau yn Nhwll y clawdd. Ac er nad ydoedd ond darllenwr bychan ei hunan, fe ddechreuodd braidd ar unwaith ar y gorchwyl o gynnal Ysgol Sul. Ysgol symudol ydoedd o dŷ i dŷ. Pan elai tŷ yn wâg, yno y cynhelid hi. Pan fethid ganddo gael tŷ arall, er fod ei wraig yn wrthwynebol, fe'i cynhaliai yn ei dŷ ei hun, er yn waethaf i'r wraig. Bu'r ysgol ar ei thro yn Cae'rhythod, Cae'rgwyddel a Throsywaen neu Werngau. Fel gwir ysgolfeistr, fe fyddai'r wialen fedw yn llaw William Sion yn gyson. Fe godai ar dro ar ganol y weddi i wastrodedd y plant, a deuai yn ol, gan ostwng drachefn ar ei liniau i'w gorffen. William Sion Caecorniog oedd apostol plant y fro.

Ni chafodd William Sion neb o gyffelyb feddwl â Rowland Dafydd Hafod oleu yng ngwaith yr Ysgol Sul. Cynhelid hi ganddynt hwy ill dau am rai blynyddoedd. Ymhen amser, pa fodd bynnag, fe gafwyd Rolant Ifan Weirglodd goch i'w cynorthwyo, yr hwn oedd yn ddarllenwr ac yn wr gwybodus, heb sôn am ei fod yn gwnstabl ac yn ofn i weithredwyr drwg. Ni ddaeth efe yn aelod am rai blynyddoedd, ond bu o gymorth mawr ynglyn â'r ysgol. Fe nodir y flwyddyn 1796 fel yr un y dechreuwyd cael help ychwanegol yng ngwaith yr ysgol. Rowland Evans oedd un o'r cyntaf i estyn cymorth. Bu Rowland Dafydd hefyd yn wasanaethgar, a Rowland Abraham a'r ddau Robert Roberts Blaen y cae ac eraill. Fe ddaeth William Sion i'r eglwys yn y dull a nodwyd yn lled gynnar yn ei hanes, a phrofodd ei hunan yn "weithiwr difefl," neu heb gywilydd arno, fel y mae ar ymyl y ddalen, yn y lle hwnnw. Tebyg ddarfod iddo gychwyn un o'r Ysgolion Sul cyntaf yn Arfon, ac mai yn Nhwll y clawdd y cychwynnodd. Fe'i claddwyd Chwefror 22, 1804.

Yr oedd Owen Thomas y llinwr, un o'r pymtheg cyntaf, yn daid o du eu tad i'r brodyr Owen a John Thomas sydd mor adnabyddus. Dan bregeth Hugh Williams Drws ddeugoed y cymhellwyd ef i ymaelodi. (Cofiant Owen Thomas, t. 6.)