Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae miloedd o Gymry erioed wedi dringo i gopa'r Wyddfa, gan fod yn dystion o godiad haul oddiyno, a chan dorri allan mewn sain cân a gorfoledd yn yr olwg:.

Bydd myrdd o ryfeddodau
Ar doriad bore wawr.

Sef geiriau ydyw'r pennill hwn ar ei hyd a ymddengys fel wedi rhedeg drwy'r meddwl yn uniongyrch ar ol yr olygfa ryfeddol. Nis gellir meddwl yn amgen na bu llawer o'r ardaloedd hyn. ymhlith eraill y bu rhyfeddod codiad haul o ben yr Wyddfa yn ddwys argraffedig ar eu meddyliau, a hynny mewn cysylltiad a'r ryfeddod fwy o atgyfodiad y saint i'r fuchedd dragwyddol. Mae Warner, fel y gwelwyd, a Watts—Dunton ar ei ol yn Aylwin, wedi cofnodi amrywiaeth lliwiau'r niwloedd o amgylch yr Wyddfa. Fe ddigwyddodd i'r sgrifennydd ar un bore Llun, wrth ddychwelyd o'r Nant uchaf, ac wrth ddynesu at Lanberis, gael ei hun ynghanol niwl o borffor tanbaid. Fe ysgubai hwnnw heibio i fyny'r allt fel rhyw gwmwl crogedig yn goch wynias, ac yna yn y pellter yn borffor disglair, ac fel môr yn ymestyn i bob cyfeiriad. Fe geisid ei gadw yn y golwg drwy redeg i fyny'r allt, ond yr ydoedd yn dianc oddiar yr edrychydd. Er hynny, fe adawodd argraff a erys. Mewn syfrdandod teimlad y bedyddiwyd yr edrychydd mor ddisymwth yn y môr coch hwn o ryfeddod. Rhaid, debygid, fod lliaws of breswylwyr yr ardaloedd hyn, yn ystod hir oes, wedi eu gwregysu yn y modd hwn, o ran corff a meddwl, â rhyfeddodau lliwiau; ac nid ychydig o honynt, yn y cyfryw brofiad, wedi eu cipio o ganol y tanlliw neu'r amryliwiau i'r gwledydd uwch o wyrddlesni,—the green upper countries of God—y sonia Morgan Llwyd am danynt.

Ar ol llifogydd y mae'r rheieidr yn dlysion odiaeth, yn hir wynias ar lethrau'r mynyddoedd. Y Ceunant mawr yw'r hynotaf, ag mae ei ddisgyniad oddeutu 60 troedfedd. Dylifa'r afon Hwch i lyn Cwm Dwythwch, ac ymarllwysa hwnnw i'r Ceunant, ac oddiyno rhed y dyfroedd i Lyn Padarn. Ond er tlysed golwg y rheieidr, eu rhu isel ar nosweithiau tawel, pan gludir ef gan yr awelon, ac yr ymetyb y cerrig yma a thraw ac yr ymuna si y naill bistyll â rhu y llall, yw'r peth hynotaf ynglyn â hwy. Yna dyfnder a eilw ar ddyfnder wrth swn pistylloedd Duw. Eithr nid swn ymarllwysiadau aruthrol