Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser. Yr oedd Gruffydd Dafydd y blaenor a Griffith Davies y pregethwr yn ddau hollol wahanol, ebe Robert Ellis. Medi 2, 1856, bu farw Sion Ffowc, a fuasai'n 72 oed rywbryd yn ystod y flwyddyn. Bu'n wyllt a gwamal yn ieuanc, ebe Robert Ellis, yn ei gofiant iddo yn y Drysorfa (1857, t. 281); eto, y pryd hwnnw, a chan gydwybod gryn feistrolaeth arno. A sylwir "bod gobaith am ddyn, er maint ei hylltod, os bydd cydwybod yn mynnu gwrandawiad." Fe ddysgodd ddarllen yn dda, a darllenodd lawer iawn yn ol ei gyfleustra; ond ni ddysgodd sgrifennu. Rhyw "ddwy lythyren fawr afluniaidd wedi eu rhicio ar ei ddyddiadur a wasanaethai am enw'r pregethwr. Pan ddechreuodd ddifrifoli, ei brif lyfr oedd Taith y Pererin. Fe ddarllenodd hwnnw drosodd a throsodd, a thrwyodd a thrwyodd. Bu Bunyan yn ffafryn ganddo ar hyd ei oes. Bu'n hir yn cloffi rhwng dau feddwl cyn gwneud proffes. Fe ymunodd â'r eglwys yn 29 oed, er mawr lawenydd yno. Nid oedd y pryd hwnnw ond pum' mlynedd er sefydlu'r eglwys, fel y cyfrifid dyfodiad Sion Ffowc iddi yn gaffaeliad mawr. Wrth briodi yn 30 oed, neu 32, fel y dywedir yn yr ysgrifau diweddarach, fe ddisgynnodd i nyth clyd. Darllen hanes Mathew, mab Cristiana, yn priodi Trugaredd yr ydoedd yng nghanol y rhedyn yn ochr y Bigil, pan y saethodd i'w feddwl fel bollt o'r glesni mai eithaf peth fuasai iddo yntau briodi. Yn y fan, gwelai lun un adnabyddus iddo yn fyw o flaen ei lygaid. Ffwrdd ag ef, fel yr hed y fran, at Sian Gruffydd i Faes y dre. Godro yr oedd Sian yn y fuches. "Wyddosti be' Sian, rhaid iti fy mhriodi i!" ebe fe. "Aros, rhaid cysidro peth fel yna," ebe Sian. "Na, 'does dim cysidro ohoni, rhaid i mi dy gael di'n wraig." Ac ni bu neb yn fwy dedwydd na hwy. Hen lanc cyfoethog oedd gwr Maes y dre, ewythr Sian, a gadawodd y cwbl ar ei ol iddi hi a Sion. Robert Williams y warden oedd yr hen lanc, dyn moesol ei ymarweddiad, yn ofn i weithredwyr drwg, yn elyn i'r Methodistiaid a'r Ysgoldy. Er hynny, aeth Sion Ffowc a'i "hylltod" dros ei ben, a daeth yn aelod da a ffyddlon o'r eglwys yma. Wedi dod o Sion Ffowc yn flaenor, fe gydnabyddai ef a'i gyd-flaenor, Robert Ifan, eu hisraddoldeb i Robert Roberts, ond nid mewn un modd i'w gilydd. Elai'r naill ar draws y llall yngwydd yr eglwys Fe ddarfu iddynt lwyr newid mewn amser, ni wyddis pa fodd: daeth y naill i gyd-olygu ym mhob rhyw beth â'r llall.