Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae gen i gariad o ddyn glanddu,
A dwy siaced a dwy sircyn,
A dwy het o'i eiddo'i hun,
A dau wyneb dan bob un.

O, fy anwylyd, dywed i mi,
Ble mae gwreiddyn ffynnon ffansi?
Ai yn dy gorff, ai yn dy galon,
Ai yn dy lân wynepryd tirion?

Mae gen i gangen o rosmari
Ar ben y Penmaenmawr yn tyfu;
Pan fydd fy anwylyd i'n mynd heibio,
E fydd y gangen yn blodeuo.

Geiriau mwyn gan fab a gerais,
Geiriau mwyn gan fab a glywais,
Geiriau mwyn sy'n dda dros amser,
Ond y rhai'n a siomodd lawer.

Tri pheth sy'n anghymesur:
Gwraig ysgwier ar y strodyr,
Dillad duon am ddyn pengoch,
A riding gown am wraig o Gwmcloch.

Y sawl sy'n beio arnaf, beied!
Heb fai arno na arbeded!
Y sawl sydd dan eu beiau beunydd,
Geill y rheiny fod yn llonydd!

Chwi fedrwch droi'r corannau crynion,
A'u gwneud yn fân ddimeuau cochion,
Ond fawr ni fedroch yrru'r ddimeu
Gwanna gwaith yn geiniog weithiau.

Dacw'r llong a'r hwyliau gwyrddion
Ar y môr yn mynd i'r Werddon;
Duw o'r Nef ro lwyddiant iddi,
Er mwyn fy nghariad i sydd ynddi.

Cleddwch fi pan fyddwyf farw
Yn y coed o dan y derw;
Yno gwelir llanc penfelyn.
Uwch fy mhen yn chwareu'r delyn.

Crist ein Por a watwarwyd,
Haul gwiwras, yn ol geiriau'r proffwyd,
Judas groes rhoes mewn rhwyd,
Caersalem lle croeshoeliwyd.