Dydd Sul o'r bedd cul caled.
Y cododd ein cadarn ymddiried;
Yn ddigel a'i gwelid
Gan ei ŵyn wiwlwyn ar led.
Codwn, ennynwn ninnau,
Heb bydru o'n budron bechodau;
Ceisiwn hedd am gamweddau,
Cyn y nos ni gawn y Ne.
Sel anrhydedd yw pregethu,
A buchedd santaidd gyda hynny;
Am bregeth Paul a buchedd Judas,
Cheir ond melltith y Messias.
Henffych well, fy hen gyfeillion,
O Fôn ac Arfon ac ym Meirion!
Lle mae swn a suo tannau,
Yn eich mwynder cofiwch finnau.
Yn eich cwmni mi fum lawen,
Yn eich plith mi fum ben hoeden;
Ni feddyliais o feddalwch
Y doe diwedd ar ddifyrrwch.