Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe ddaw rhai'n 'run modd a minnau,
Rhai'n dwyn dail, a rhai'n dwyn blodau,
Rhai'n dwyn ffrwyth hyd ddiwedd angeu :
Ni wnaeth Duw un peth yn ofer.


Yr ydwi'n credu, pe bawn i'n moli'r Iesu'n rasol,
Y cawn i fynd i blith y saint, heb soriant i fyw'n dduwiol,
A'm dwyn i dawel noddfa'r Ne, o'm dyrus le daearol.


Os y chwi yw'r glana o'r merched,
Sut yr oedd eich mam cyn futred?
Mi'ch cyfflybwn, seren eglur,
I gosyn glan o gawsellt budr.
Geneth ydw'i ar y dibyn,
A'm dau droed mewn llwybr cyfyng;
Ac er däed gan rai i mi dripio,
Sathra'i lwybr gwastad eto.
Mi fum gynt yn caru glanddyn,
Ac yn gwrthod pob un gwrthun;
Ond o'r diwedd mi ges weled,
Sadia'r mur po garwa'r garreg.
[Ateb] Ni fynnai'r un o'r cerrig geirwon,
Mae nhw'n fynych iawn yn freuon;
Mynna'i garreg wisgi wastad,
Honno sai' yn sad mewn 'deilad.
Bod yn llawen ac yn ddigri,
Mi wel rhywun fai ar hynny;
Bod yn brudd a digllon ddigon,
Gan bwy ca'i gŵyn os torra'i nghalon?


Yn cyfateb i rywbeth a deimlir yn y dyrifau y ceir y carolau o'r un cyfnod. Fe sylwir, hefyd, ar y naws babaidd yn rhai ohonynt. Yr ysbryd Methodistaidd yn ddiau a ddileodd y gweddillion o hynny yn y wlad. Tebyg y bydd rhai yn rhyfeddu ddäed yw moesoldeb y naill a chrefyddoldeb y lleill. Wrth fynych son am lygredigaethau'r cyfnod cyn-Fethodistaidd, yr ydys mewn perygl o bardduo'r cyfnod hwnnw ar rai agweddau iddo yn fwy na ddylid. Ceisio gweled yn union pa fodd yr oedd pethau a weddai i ni. A chyfleu y gwahaniaeth mewn un gair, absen unrhyw gyffyrddiad lleiaf o'r elfen efengylaidd a deimlir yn y dyrifau a'r carolau ar eu goreu. Dyma gerbron lawysgrif yn cynnwys gan mwyaf garolau crefyddol. Mae'r llyfr wedi aros, debygir, ym mhlwyf Llanbeblig o'r dechre, sef