Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/293

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae'r Arglwydd ar wneuthur rhywbeth mawr yma." A thrachefn, yn yr oedfa yn Llanrug, ebe fe,-"Gweddiwch, ' bobl, y mae diwygiad ar dorri allan yng Nghwm y glo. Ai tybed y gadewir yr hen fam [sef Llanrug, y fam-eglwys] heb ddim?" Yn y man, y naill a'r llall yn ceisio aelodaeth yn yr eglwys. Daeth pedwar gyda'i gilydd un noswaith. Bu rhywun neu'i gilydd yn dod bob wythnos am rai misoedd. Yr oedd y capel newydd yn llawn yn fuan. Erbyn canol 1840, galw am ychwaneg o eisteddleoedd. Erbyn Chwefror, 1841, yr oedd croglofft wedi ei gosod yn y capel. Rhif yr eglwys y pryd hwnnw, o 65 i 70.

Y Cyfarfod Misol cyntaf yma, Mehefin 7, 8, 1841. Yr oedd traul adeiladu'r capel a'r tŷ yn £400. Ni ddywedir a oedd y groglofft yn gynnwysedig. Erbyn canol 1850 y ddyled wedi ei thalu; ac o hynny hyd ddechre 1860 yr oedd hanner arian yr eisteddleoedd yn myned at gynnal ysgol ddyddiol yma.

Yn 1854 adeiladwyd capel yr Annibynwyr yma. Effeith- iodd hyn ryw gymaint ar yr eglwys a'r gynulleidfa. Ionawr, 1854, yr oedd rhif yr eglwys yn 84; gosodid eisteddleoedd i 240 allan o'r 244 oedd yn y capel. Erbyn diwedd 1856, rhif yr eglwys, 86; gosodid eisteddleoedd i 202. Nid yw ystadegau 1855 wrth law. Eithr fe ddywedir ddarfod i'r eglwys leihau ryw gymaint. Yn 1858 adeiladwyd y tŷ capel o newydd ar draul o £180.

Lle go anystywallt oedd yma er adeg agor y ffordd fawr yn 1828. Pobl dawel y cyfrifid y bobl cyn hynny. Eithr wedi dyfod o feibion Belial yma, a chyffroi o'u nwydau gan gwrw a hyfdra, dyna feibion Anac, a drigiannai eisoes yma, hwythau hefyd yn cyffro yn wyneb cyffro'r gweilch eraill. Dyna deulu'r Bryn a theulu'r Bwlch, cewri o nerth, ac yn pwyso o ddeucant i dri: nid segur hwythau chwaith pan gyffroid hwy gan estroniaid anwaraidd. Yn y canlyniad, bu yma ryw 30 mlynedd mawrdrystiog, yn enwedig y traean olaf o'r cyfnod hwnnw. Nid diogel i wr dieithr fyned drwy'r lle wedi ei hwyrhau. Argyhoeddwyd rhai dynion ieuainc oddiyma yn gyhoeddus yng nghapel Llanrug gan John Williams Llecheiddior, ar eu gwaith yn dod i'r oedfa wedi yfed yn o uchel. Nhwythau yn penderfynu ymosod arno drannoeth ar ei waith yn dod drwy'r pentref yma. Dyma John Williams heibio, a hwythau yn bygwth yn