Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/330

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Davies ddosbarth darllen yn Athrawiaeth yr Iawn am un ar y gloch brynhawn Sul, pryd y deuai ynghyd o 15 i 25. Yn y dosbarth hwnnw, fe chwysai William Gruffydd y gof wrth egluro ac amddiffyn ei olygiadau nes disgleirio o'i wynepryd naws ddu. Ymresymwr medrus oedd David Michael Jones (Dewi Peris). Bu'r cyfarfod llenyddol mewn bri mawr am dros ugain mlynedd. Cynhelid ynglyn âg ef arholiad blynyddol yn rhyw ran o Gyfatebiaeth Butler. Yn y seiat ar ol oedfa nos Lun yr oedd Ryle Davies yn adrodd ei hanes ei hun o'r hen amser. Ar un adeg ni chadwai dim ef wrth y capel ond y canu. Yn y seiat unwaith daeth Robert Ellis heibio iddo. "Wel, William, be' sy genti?" Dim byd." "Dim byd, ai e? Dim byd! dim byd! 'Rwyti wedi methu dy le, machgen i. Nid lle i bobol ddi-feddwl sydd yma—pobol heb ddim byd!" Ffwrdd â'r gweinidog at Owen William Bryndu. Gwr yn ymroi i'r byd oedd Owen William, gan weithio'n galed yn y chwarel ac ar ei dyddyn. Nid oedd gan Owen William ddim neilltuol." "Ho, dim neilltuol, ai e? Gweithio, gweithio, gweithio! Gweithio, gweithio! Beth am yr enaid, Owen William?" A ffwrdd a'r gweinidog i'r sêt fawr. Ymhen rhyw dri mis, dyma'r gweinidog heibio Ryle drachefn. "Wel, William bach, be' sy genti?" "Dim neilltuol; ond 'rydw i fel yn disgwyl rhywbeth." "Da, machgen i! da, machgen i! Mae William yn disgwyl rhywbeth! Pa faint ohonoch sy'n disgwyl? Mae William yn disgwyl! Dal di ati hi, machgen i, a mi ddaw'n ddydd arnat cyn bo hir."

Fe gyfleir yma nodiadau Robert Ellis dros y cyfnod y bu'n dod yma, gan adael allan y pethau llai pwysig, neu bethau go debyg i'w gilydd: 1861, Ionawr 24. Seiat. Nothing. Chwefror 28. Seiat. Rhoddi tro ar y llanciau. Mich. Jones yn taflu dwr oer. Mawrth 25. Ochr dywyll i'r achos da yn y golwg. Awst 8. Seiat. Nid mor ddwl. Medi 6. Cyf. Dir. Lle i ofni fod dirwest wedi troi allan yn ffeliar. Hydref 24. Seiat. Dim. Tachwedd 15. Profedigaethau Macpelah. Dechreuad. gofidiau yw hyn. 1862. Mehefin 11. Seiat. Pa beth i'w wneud o'r cyfarfodydd hyn? A all dyn duwiol fod yn ddibrofiad? 24. Seiat dda. Dyna rywbeth! Gorffennaf 1. Disgyn o ganol yr helynt i Macpelah i'r seiat. Mor dda fuasai gennyf gael gwrando'n ddistaw! Tasg ddwbl! Pw! Hydref 28. Seiat. Chwilio am brofiad lle nad yw. Mor ddiflas!—ïe, diflas! Tachwedd 4. Seiat. Dwl a difynd. Nid oes gan y