Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofalaeth. Dyn mwyn, cymwynasgar ydoedd yntau. Gallesid tybio fod yr elfen hon yn gref yn y teulu. Y gwrbonheddig gwlad ydoedd ef, hoff o helwriaeth a gwledd. Llarieiddiwyd tanbeidrwydd Peter Williams yn Peter Bayley; dofwyd defnyddioldeb Peter Bayley yn Henry Bayley.

Fe gyfleuir yma gywydd ymweliad Gutyn Peris â'i gyfeillion yn Llanrug, 1834, fel y mae yn ei law ef ei hun yn y llyfr dyrifau y cyfeiriwyd ato.

At gyfeillion tirionaf Yn Llanrug llawen yr af:
I'r Gelliodd i rodio Yr af a drigaf dro,
I ddoniol ymddiddan A Gruffydd wr celfydd cu,
Gwr goleu hygar galon, Mawr ei serch â Mari Sion,—
Dau o ddynion diddanaf, Mawr fraint gyda'm ceraint caf.
Yna gwedi bri a braint A'm cariad gyda'm ceraint,
Mi a redaf i'r Hafod At y pur henadur nôd.


Peter Williams, pe treuliwn Fy oes o hyd ar faes hwn,
Nis cawn mewn hyfrydlawn fro Yn eiddwng [1] derfyn iddo.
Maes di adwyth ei ffrwythydd Deiliog, blodeuog bob dydd,
O'i gloddio i gael addysg, Y mae i'w dir emau dysg.
Trysorau gwybodau byd Er y ceinfeib o'r cynfyd,
A gwybodaeth helaethach O nef a wna glaf yn iach.
Maes hynod hyglod eglur Yw maes mad offeiriad ffur [2],
Gwresog iawn ei groesaw gwych Yw'r ynad eirian wych.
A'r wraig weddeiddiaf erioed, Didrain ddwylaw a deudroed,
Dawnus cariadus ydyw, Haelionus croesawus yw.
A gaed yn awr gyda ni Un mwy pur na'u mab Harri?
Llwydd iddo a fo hyd fedd Gyda'i garedig gydwedd,
A boed rhad i'w had o hon, Deg orhoff blant ac wyrion.
I'r rhain, fel i'w rhieni, Boed cariad a rhad ein Rhi.
Mawl iddo, ei eiddo ynt! Fe rydd fa'i oreu iddynt.
Rhedaf fi ar hyd y fan, Hwnt, hefyd, i Bant Ifan,
Er parch i'r hybarch Robert A'i hardd briod barod bert,—
Robert Parri wr hybwyll, Digabl ei barabl a'i bwyll.
Caf yn fuan gan y gwr Reswm a synnai ryswr,
Trafod hynod ei einioes A'i gur pan dorrwyd ei goes,
Coffau ei boenau tra bu Yn ei hachos yn nychu,
Coffau ei ofnau a'i aeth, A glanaf dref Rhagluniaeth,
Yr Ion yn rhoi hir einioes Ac edfryd iechyd i'w oes.
A chanaf yn iach yno, Cyrchaf i'm hyfrydaf fro,
Braich Talwg niwliog ei nen, Yn agos i lan Ogwen.

Yn 1829 y cafwyd pregethu rheolaidd gyntaf yn Llanberis

gan yr Annibynwyr. Yn 1831 y cychwynnwyd yn Llanrug;

  1. yn agos
  2. doeth