Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn yr hanes dilynol fe gyfleir y Capel Coch a'r cylch ymlaenaf, ac yna Llanrug a'r cylch. Mae hanes eglwysi'r Ceunant a Thanycoed eisoes wedi ei gyfleu yn hanes eglwysi Waunfawr a'r cylch, gan eu bod yn perthyn i Ddosbarth Caernarvon Fe gyfleir hanes y Pentir eto yn Nosbarth Bethesda, gan mai i'r Dosbarth hwnnw y perthyn yntau. Fe ganfyddir fod 5 o eglwysi wedi tarddu yn uniongyrchol o'r Capel Coch, a 2 yn anuniongyrchol; a 5 o eglwysi yn uniongyrchol o Lanrug, a 6 yn anuniongyrchol. O'r 6 a darddodd yn anuniongyrchol o Lanrug y mae 5 wedi tarddu'n uniongyrchol o'r Ysgoldy. Rhif aelodau cylch Capel Coch ar ddiwedd 1900, 1439. Rhif aelodau cylch Llanrug, 2409. Cyfanswm y ddau gylch, 3848. Dealler y cynnwysir yn y cyfrif hwn eglwysi'r Ceunant a Thanycoed a Phentir yng nghylch Llanrug. Yn y taflenni uchod, fe ganfyddir dau enw weithiau uwchben yr amseriad. Pan ddigwydd hynny, mae'r ail eglwys wedi tarddu o'r gyntaf a enwir, er y gallai fod eglwysi eraill yn cynnorthwyo â'u cyfraniad o aelodau. Yr amseriad ydyw amser sefydlu'r eglwys a enwir ymlaenaf.