Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r seiat, sef John Robert Evans Cwmyglo, ac o'r herwydd gelwid ef yn Sion Seiat.' Gan fod John Wheldon yn un o'r plant hynny, nis gallasai fod yn aelod ar y pryd. Fe'i cyfrifid yn gerddor da. Efe, ar un adeg, ynghyda John Williams Bryn coch a Willian Owen Blaen y ddôl oedd y tri datganwyr goreu yn yr ardaloedd yma. Bu'n datgan dernyn wylofus yn ardal Bethesda nes bod y gynulleidfa yn foddfa o ddagrau. Gwr gonest, cywir, ydoedd; a phob rhagrith yn ddrwg anoddef ganddo. Cwbl wyneb-agored. Bu'n arweinydd y gân am flynyddoedd, a gwellhaodd lawer ar y canu cynnulleidfaol. Rhoe bwys ar dynerwch yng nghaniadaeth y cysegr. Meddai ar chwaeth mewn dewis tonau. Ieuan Gwyllt ydoedd ei gynllun yn hynny. Fe briodai'r emyn â'r dôn fwyaf cyfaddas iddo yn ddifeth braidd, a llwyddai i daflu gwres a bywyd i'r canu. A llawer o lafur yr enillodd efe'r feistrolaeth hon. Fe gesglid wrth ei ysgogiadau weithiau ar y ffordd fawr mai rhoi prawf ar y dôn yma neu arall y byddai. Tueddu mymryn at unbenaeth fel blaenor. Nid ar bob tro yr asiai yn rhyw dda iawn â'i gyd-flaenoriaid yn nygiad y gwaith ymlaen. Fe gymrai ran helaeth yn yr holí a'r ateb cyhoeddus yn yr ysgol. Pan godai dadl go frwd weithiau, fe neidiai ar ei draed, gan sicrhau mai fel a'r fel yr oedd deall y pwnc hwnnw, ac nid yn unrhyw fel arall. A'u tymerau yn brydio yn y dadleuwyr mewn un ddadl, wele yntau ar ei draed, ac yn beirniadu'r rhesymau a gynnygid ar bob ochr, a chan symio y cwbl ynghyd, yn cyhoeddi âg awdurdod deddfwr,—" Cymerwch y syniad a ddengys fwyaf o Dduw. Dyna'r ffordd ddiogelaf, gyfeillion bach." Ni foddheid ef â phregeth, os na ogoneddid y Gwaredwr ynddi. Fe'i ceid yn o lawdrwm weithiau ar bregethwr ieuanc y teimlid diffyg ynddo o'r gras hwn. Fe arferai ddweyd na bu mewn seiat erioed nad ystyriai hi'n werth bod ynddi. Efe'n bennaf a fu'n offeryn i sicrhau gan stâd y Faenol y tir y saif yr adeiladau arno. Dilynydd cyson am flynyddoedd ar y cyfarfodydd misol, ac adroddwr campus yn y seiadau ar eu gweithrediadau. Dug fawr sel dros y Genhadaeth. Mawr fu ei awydd am wella er medru dod pe na bae ond am beth amser i'r capel newydd; ond nid felly y trefnwyd uchod. Hyd yma fe ddilynwyd, o ran sylwedd, nodiadau G. J. Hughes ac O. W. Rowlands. Yn y coffa yn y Cyfarfod Misol, fe ddywedir ei fod yn wr o gyneddfau cryfach na chyffredin, a ddarfod iddo