Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Dinorwig.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

esyn a arferai Hugh Hughes yr Hafod lydan adrodd am Sion Gruffydd Parry y blaenor, a drigai ar y pryd yn y tŷ capel. Ar un prynhawn oddeutu 1805, gan fyned gyda'r pregethwr i'r oedfa yn y Waunfawr, aeth ag agoriad y capel gydag ef, fel nad ellid cynnal mo'r ysgol ynddo. Bu raid ei chynnal dan gysgod gaeadfrig derwen gerllaw. Ei reswm dros yr hyn a wnaeth ydoedd nad gwaeth ganddo ef, yr un tamaid, fuasai gwneud clôs ar y bwrdd ar y Sul na dysgu plant i ddarllen. Teiliwr ydoedd o ran ei grefft. Rhaid, debygid, fod yr ysgol wedi parhau yn wan hyd yr amser yma cyn y gallasai Sion Gruffydd Parry arfer y fath hyfdra arni. Fe ddaeth yntau ar ol hynny yn gefnogydd i'r ysgol. Un o'r rhai mwyaf ymroddgar i'r ysgol yn ei chyfnod boreuaf ydoedd Sionyn Tŷ coch o'r Fachwen. Yr oedd camp ar Sionyn fel athro, fe ddywedir; ac efe, hefyd, oedd yr ysgrifennydd. Fe arferai'r hen sant, Hugh Hughes, ddweyd am dano, ei fod yn sicr yn y nefoedd, er iddo farw yn ddibroffes. Un arall o'r hen athrawon mwyaf cymeradwy oedd William Morris Ty'r geifr, ger Glan y bala, wedi hynny o'r Cwm glas. (Llanberis, W. Williams, 141.) Dyma adroddiad ymwelwyr y Canmlwyddiant â'r ysgol: "Y mae yma ystafell gyfleus i'r plant ar wahân. Hyfrydwch gennym oedd canfod cynnifer o athrawon ac athrawesau ieuainc, cystal a rhai mewn gwth o oedran, wedi ymgysegru i'r gwaith. Ni welem ynddynt allu ac egni i arwain y dosbarthiadau. Da fuasai gennym weled mwy o ddefnydd o gynllun yr ysgol ddyddiol. Doeth fyddai peidio â chadw nifer o rai wedi dysgu darllen yn rhwydd yn yr ysgol fach. Byddai hynny yn gymhelliad iddynt i ymroi i ddysgu. Dymunol oedd gweled yr ieuainc yn y capel yn ymroi i holi ac ateb. Y drefn fwyaf cyffredin oedd i bob un holi ar ei adnod ei hun. Cymeradwy, hefyd, oedd eu bod yn cadw at y maes llafur. Yr holi a'r ateb cyhoeddus yn bur ddymunol. Ni chofiwn am un gofyniad heb ei ateb yn briodol. Ni deimlem yma awydd gwylaidd i ymwthio i gyfrinach yr ysbrydol. Hugh Owen, Hugh Lewis."

Fe gyfleir yma weddill atgofion O. W. Rowlands wedi eu crynhoi: "Wrth gyfarfod â ni fe ofynnai John Robyns,—A oes gyda thi adnod heddyw? a dywedais lawer un wrtho, a mynych hefyd y byddwn yn ei ysgoi rhag fy nghyhuddo o beidio â dysgu adnod newydd. Byddai ganddo feusydd i'r plant: hanes duwiolion yr Hen Destament. Dyn ydoedd â'i