Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

boreu. Yr oedd yn nodedig am ei ddiwydrwydd gyda'i orchwylion bydol. Trwy dalent naturiol ac ymroddiad, ,yn hytrach na thrwy fanteision boreuol, y daeth yn fedrus mewn gwneuthur cerig beddau, &c, ac ymdrechai hyd y byddai modd fyned i'w deithiau Sabbothol, a dychwelyd o honynt heb golli dim o'i amser gyda'i waith. Cerddai o 15 i 20 milldir lawer boreu Sabbath i'w gyhoeddiad; a chymaint ag a fyddai yn bosibl yn ol y noson hono, rhag colli dim o'i amser. Yr oedd yn ddyn o ysbryd gwir grefyddol Cofus genym, flynyddau yn ol, glywed un o'i gyfeillion mynwesol yn adrodd iddo gael un Sabbath cyfan heb i un meddwl am bethau bydol, hyd y gallai gofio, fyned trwy ei fynwes nes y cyrhaeddodd i ymyl ei dŷ yn yr hwyr, ac y gwelodd tombstone y buasai yn gweithio arni. Anfynych y canmolai lawer ar ddim mewn cysylltiad â'i bregethu. Fel hyn y dywed R. E. ar y pen hwn : Gofynais iddo, ar ol agos bob Sabbath, pa fath odfaon a gawsai, a'r ateb yn gyffredin fyddai, Digon tlawd, oddieithr un Sabbath y cafodd efe odfa neillduol yn Caeau Cochion, ger Trawsfynydd, pryd y dywedodd ei fod yn sicr fod yno ryw un mwy nag ef na'r bobl. Diameu y bydd llawer yn cofio am yr odfa hono i dragwyddoldeb.

Ond daeth ei oes i derfyn hynod ddisymwth. Yr oedd yn pregethu yn Llanwrin nos Sabbath, Ionawr 26, 1840, a dydd Llun, Ionawr 27, tua thri o'r gloch yn y prydnhawn, trwy gwympiad y graig yn chwarel y Ceunant Du, lladdwyd ef a gŵr crefyddol arall o'r enw Hugh Williams. Ei destyn olaf yn Llanwrin ydoedd, Heb. ix. 27, "Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hyny bod barn"; ac ymhen llai nag ugain awr ar ol terfynu y bregeth yr oedd ei hunan yn y farn. Y noson hono yr oedd y diweddar Barchedig Richard Jones, Llanfair, yn pregethu yn Nghorris, i gynulleidfa fawr, mewn agwedd hynod ddifrifol Mae yn amheus a dreuliwyd odfa