Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gael gafael ar ei hystyr. Wrth dderbyn rhai ieuainc at Fwrdd yr Arglwydd yr oedd yn rhagorol. A chyflawnodd lawer o wasanaeth am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Efe am flynyddoedd a wasanaethai ymhob claddedigaeth; ac nid anfynych y byddai y blynyddoedd hyny yn cael y fraint o 'roddi yn rhad'." Clywid, hefyd, ei weinidogaeth yn cael ei hadrodd yn y cyfarfodydd eglwysig, yn y teithiau yr elai iddynt, ar ol iddo fod yno y Sabbath, mor fynych, os nad yn fynychach, nag eiddo gweinidogion eraill. Digwyddodd rhai pethau anghysurus cyn iddo ymadael o Gorris, a bu yn helbulus ac ystormus iawn arno drachefn yn Abergynolwyn. Yn yr anghydfod a fu yno, ymadawodd oddiwrth y Methodistiaid, ac ymunodd â'r Annibynwyr, ac mewn cysylltiad â'u henwad hwy y dibenodd ei oes. Cafodd ef a'i briod gystudd trwm yn y diwedd. Ond er mor arw fu y treialon chwerw yr aethant trwyddynt, yr oeddynt ill dau yn debyg iawn i'r aur wedi ei buro trwy dân erbyn i'r diwedd ddyfod. Ni welsom neb yn fwy tebyg i Gristion nag oedd Mrs. Jones yn ei chystudd olaf. Un o'i ddywediadau yntau yn ei ddyddiau diweddaf ydoedd, "Yr wyf yn awr wedi cymodi yn hollol â'r bedd, oblegid yr wyf yn gweled mai y bedd ydyw yr unig oruchwyliaeth i gwbl sancteiddio y corff, a'i wneuthur yn gymwys i'r nefoedd." Y Parch. John Roberts.—Daeth ef yma yn nghanol y flwyddyn 1875, trwy alwad eglwysi Abergynolwyn ac Ystrad-gwyn i fod yn weinidog iddynt. Yr oedd y pryd hwnw newydd orphen ei efrydiaeth yn Athrofa'r Bala. Genedigol ydoedd o ardal y Glyn, ger y Bala; wedi ei fagu mewn teulu crefyddol o'i febyd, ac megis yn ngolwg athrofa y proffwydi. Trwy ymroddiad a dyfalbarhad yn yr Athrofa, enillodd barch ei athrawon a'i gyd—efrydwyr. Dywedai y Parch. Dr. Edwards yn y Rhagymadrodd i'w Gofiant, "Ei fod yn un o'r pregethwyr ieuainc mwyaf rhagorol a fu yn yr Athrofa." Yr oedd yn grefyddol a nefolaidd ei ysbryd, ac yn ymroddedig i waith y weinidogaeth. Yn y Goleuad, yr wythnos ar ol ei farw, ym-