Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddangosodd y nodiadau canlynol:—"Yr oedd y lle mawr oedd ef fel hyn wedi ei enill yn mynwes y ddwy eglwys oedd dan ei ofal, mewn ysbaid mor fyr a thair blynedd a haner, yn dangos fod ynddo ragoriaethau tuhwnt i'r cyffredin. Od oes ar neb eisiau doethineb, gofyned gan Dduw.' Mae yn bur debyg ei fod ef wedi gofyn am dani; sut bynag am hyny, amlwg ydyw ei fod wedi ei chael. Yr oedd ei dalentau a'i gymwysderau i'r weinidogaeth yn amlwg i bawb. Meddai allu rhwydd iawn i siarad, ac yr oedd y gallu hwnw yn dyfod yn fwy effeithiol a dylanwadol. Hoff bwnc ei bregethau y misoedd diweddaf oedd Person Crist; ac am ei fod yn teimlo materion ei bregethau yn llosgi yn ei enaid ei hun, yr oedd ei bregethau yn cydio yn ei wrandawyr." Teg ydyw crybwyll, hefyd, fod yr amgylchiadau yr oedd eglwys Abergynolwyn ynddynt yr amser yr oedd ef yno yn ffafriol iawn i'w gynydd a'i lwyddiant; cafodd y gwynt a'r llanw o'i blaid. Ond er galar i'w gyfeillion, a cholled i'r eglwysi dan ei ofal, a siomedigaeth i'r wlad, hunodd yn yr Iesu, Tachwedd 27ain, 1878, yn 31 mlwydd oed.

BWLCH.

Ardal wledig ydyw y Bwlch, yn agos i fin y môr, haner y ffordd rhwng Towyn a Llwyngwril. Yn yr ardal hon y mae Bronclydwr, o barchus goffadwriaeth. Yr oedd llawn bedwar ugain mlynedd wedi myned heibio er pan fu farw yr apostol hybarch, Hugh Owen, cyn y dechreuwyd pregethu gyntaf gan y Methodistiaid yn ardaloedd rhwng y Ddwy Afon, ac yr oedd ôl llafur y gŵr da hwn, cyn belled ag yr elai arwyddion allanol, wedi darfod yn hollol yn yr ardal. Ac nid oes ychwaith y dydd heddyw na siw na miw am neb o'i ganlynwyr yn yr un lle yn y cwmpasoedd. Ond yr oedd y Bwlch yn un o'r lleoedd cyntaf i dderbyn y "newyddion da" trwy y Methodistiaid; yr oedd yn un o'r manau cyntaf i gychwyn gyda'r Ysgol Sabbothol; ac yma hefyd yr oedd yr achos gryfaf oll yn y Dosbarth, oddi eithr Bryncrug, am ysbaid yr haner can' mlynedd cyntaf ar ol