Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffurfiad yr eglwysi yn y wlad. Fel hyn y dywedir am y lle pan oedd hanes Methodistiaeth y wlad yn cael ei ysgrifenu ddeugain mlynedd yn ol,—" Yr oedd yma nifer bychan o bobl dlodion yn y gymydogaeth hon yn cydgychwyn gyda chrefydd â'r rhai blaenaf yn Llwyngwril, a hyny cyn fod moddion cyson yn cael eu cynal yn yr un o'r ddau le. I'r Abermaw y byddai yr ychydig broffeswyr hyn yn arfer myned i'r cyfarfod eglwysig; ac yno hefyd, gan amlaf, yr oedd yn rhaid myned i wrando pregethu, ac i gymuno, pan ar ddamwain y rhoddid cyfleusdra i hyny, trwy ddyfodiad un o'r offeiriaid Methodistaidd heibio o'r Deheudir." Yr oedd agosrwydd yr ardal hon yn gystal a Llwyngwril i'r Abermaw, yn peri fod y gwreichion yn disgyn yma gymaint a hyny yn gynt. Yn fuan wedi 1785, yr oedd John Ellis, Abermaw, yn dechreu pregethu, a diau y deuai i'r Bwlch i bregethu yn un o'r lleoedd cyntaf. Ymhen pum' mlynedd drachefn, yr oedd Lewis Morris yn dechreu pregethu, ac y mae ef yn dweyd ei hunau "mai oddeutu y pryd hwn y daeth pregethu gyntaf yn y cysondeb o hono i'r parth hwn o'r wlad." Dywed yn mhellach, hefyd, ei fod ef ei hun wedi cymeryd tŷ yn y Bwlch i gynal pregethu ynddo. Dywedir mai y lle y cedwid moddion gyntaf yn yr ardal oedd Tŷ Cerrig, lle y preswyliai hen ŵr o'r enw Sion Lewis, a Betti Lewis, ei wraig. Wedi hyny, cymerwyd tŷ heb ei aneddu, yn ymyl y capel presenol, i'r diben yn unig o gynal cyfarfodydd crefyddol. Y tŷ hwn, mae'n debyg, oedd yr un y cyfeiriai Lewis Morris ato, ac ynddo y buwyd yn addoli hyd nes yr aethant i'r capel.

Oherwydd prinder pregethwyr, a phrinder dynion yn y fan a'r lle i gynal moddion cyhoeddus, byddai rhai yn cerdded holl ffordd o'r Abermaw a Dolgellau i'r Bwlch ar y Sabbothau, i helpu i gynal cyfarfodydd gweddïau. Y mae y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn dweyd ei fod yn myned yno gydag eraill, cyn iddo ddechreu pregethu yn 1792, neu 1793, a rhydd y disgrifiad canlynol o'r lle: "Yn y cyfryw gyfarfodydd, byddai pob un o honom yn gyffredin yn darllen rhan o'r Gair,