Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond rhaid rhoddi y lle blaenaf i John Vaughan, Tonfanau, a'i briod, fel y rhai a gododd achos crefydd i sylw gyntaf yn y rhan yma o'r wlad; hwy a fuont y colofnau cadarnaf i gynal yr achos. Mewn penod flaenorol rhoddwyd hanes am dröedigaeth hynod Mr. Vaughan, yn races ceffylau, ar Forfa Towyn. Yn union ar ol y tro hwn ymunodd ef a'i briod â chrefydd, a chysegrodd y ddau eu talentau a'u cyfoeth i wasanaeth crefydd. Gan fod Mr. Vaughan yn ŵr uwch ei sefyllfa na'r cyffredin, yn berchen ei dyddyn ei hun, a thiroedd o amgylch ei dyddyn, yr oedd ei ddylanwad yn cyraedd ymhell, ac yr oedd cysylltiad gŵr o'i fath ef âg achos yr Arglwydd Iesu y pryd hwnw yn foddion neillduol i enill y wlad o blaid crefydd. "Fe'i gwnaed ef yn ddisgybl gostyngedig yr addfwyn Iesu, a chyfrifwyd ef a'i wraig, a'u hunig fab, o hyny allan ymysg yr ychydig broffeswyr. Yr oedd dychweliad gwr mor gyfrifol a Mr. Vaughan at grefydd, yn foddion effeithiol i osod gradd o urddas a bri ar grefydd yn ngolwg y rhai a edrychent yn unig ar ymddangosiad pethau, ac a farnent yn ol y golwg. Nid bychan oedd y syndod ei weled ef, yn anad neb, yn troi yn Fethodist; eto felly y bu, a pharhaodd yn ffyddlawn hyd ddiwedd ei oes. Byddai ef a'i deulu ymhob moddion yn gyson a phrydlon. At yr amser yn gymwys ceid ei weled ef, a Mrs. Vaughan, a'r mab, yn cychwyn oddiwrth y tŷ; ac yn fuan ar eu hol gwelid yr holl weinidogion yn fintai fawr gyda'u gilydd, a hyny ar unrhyw awr o'r dydd, neu unrhyw ddydd o'r wythnos, neu unrhyw wythnos o'r flwyddyn. Mae yn rhaid fod rhywbeth mewn crefydd,' meddai ei gymydogion, 'onide ni wnai gŵr mor gall a Mr. Vaughan mo hyn.' Yr oedd yn ŵr tirion a chymydogol, a phob amser yn barod i wneuthur cymwynas i'w gymydogion." Bwriadai Mr. Vaughan symud o Tonfanau i fyw, oherwydd fod y lle, yr hwn sydd ar lan y môr, yn niweidiol i iechyd ei fab, ac adeiladodd balasdy hardd Cefncamberth, sydd ar y llechwedd, y tu gogleddol i'r reilffordd, ac mewn pellder cymedrol oddiwrth y môr, i'r diben i