Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyd a'r seintiau mewn gorfoledd,
Yn gweled gwedd ei Brynwr cû;
Ei weddw unig sy' eto'n gweini,
O'r hyn sy' ganddi i deulu'r ffydd;
A rhwng ei cholled a'i chystuddiau
Mae'n rhaid i'w bronau fod yn brudd.

Fy anwyl chwaer, na ddi—galona,
Ond gorfoledda ddydd a nos;
Byw yw Crist, dŷ Briod pena',
Ymlawenycha yn ngwaed ei groes;
A gorphwys yn ei fynwes dawel,
Fe gerdd y rhyfel o dŷ blaid;
Os rhoi dŷ boll ymddiried ynddo,
Cei gymorth ganddo'n yn ol dŷ raid.

DAFYDD CADWALADR A'U CANT.

*****

Yn Cefncamberth y treuliodd Mrs. Vaughan weddill ei hoes, a bu hi byw hyd oddeutu y flwyddyn 1840. Bu yn famaeth dirion ac ymgeleddgar i achos yr Arglwydd hyd ddiwedd ei bywyd. Yr oedd yn wraig ddirodres a gostyngedig iawn. Ei hyfrydwch penaf oedd gwasanaethu i'r saint a gweision yr Arglwydd, ac yr oedd ei chlod yn y pethau hyn yn cyrhaeddyd ar led trwy Gymru oll. Cefncamberth oedd llety yr holl bregethwyr, ac nid ychydig oedd nifer y rhai a alwent yno yr oes hono, pan yr oedd cymaint o deithio rhwng De a Gogledd. Byddai yno rai pregethwyr yn aros beunydd, a bu hi yn dda iawn wrth y rhai tlotaf o honynt. Cadwai rai o'r cymydogion ar waith yn wastadol yn gwau hosanau, ac yn parotoi rhyw ddilledyn neu gilydd, er mwyn eu rhoddi yn rhoddion i'r pregethwyr y gwelai hi arwyddion o dlodi ar eu gwisg. "Yr oedd Mrs. Vaughan yn un o'r gwragedd hynod hyny na cheir hwynt ond anfynych mewn gwlad—un na chafodd Solomon ei chyffelyb ymysg mil." Bu yn dra haelionus i'r achos yn y Bwlch. Yn 1839, yr oedd ymdrech neillduol yn cael ei wneuthur i dalu dyled y capelau rhwng y Ddwy Afon, ac ymgymerodd y Parch. Richard Humphreys, a Mr. Williams, Ivy