Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

House, Dolgellau, i fyned o gwmpas i gasglu at hyn. Tra yr oeddynt yn hel addewidion yn gyhoeddus yn y Bwlch, rhoddodd Mrs. Vaughan ei phwrs i'r casglyddion, ac erbyn tywallt yr hyn oedd ynddo ar y bwrdd, daeth allan o hono haner cant o bunau. "Faint sydd arnoch eisiau yn ol? gofynai Mr. Humphreys iddi. "Nid oes arnaf fi eisiau dim yn ol ond y pwrs," ebe hithau. Edrychid ar y swm mawr hwn yn beth tra anghyffredin yr adeg hono, ac aeth son am y rhodd haelionus ymhell ac yn agos. Effeithiodd hyn hefyd i beri i eraill weled prydferthwch mewn haelioni. Adroddai y foneddiges haelionus, Mrs. Griffith Thomas, Aberystwyth, unwaith wrth y Parch. W. Davies, Llanegryn, mai wn oedd yr amgylchiad a droes ei meddwl hithau gyntaf at y gras o haelioni. Pregethai gwr o Sir Feirionydd ryw dro yn ei chlywedigaeth, ac adroddai am y weithred haelionus o eiddo Mrs. Vaughan. Anghofiodd Mrs. Thomas enw y pregethwr a adroddai yr hanes; ond nid anghofiodd byth yr hanes ei hun. "Mi welais," ebai, "y pryd hwnw y fath brydferthwch mewn haelioni crefyddol, fel y penderfynais ddilyn y cyngor a saethodd i'm meddwl ar y pryd, 'Dos a gwna dithau yr un modd.'" Gwnaeth Eglwys y Bwlch £39 15s. o gasgliad y tro hwn ar wahan i £50 Mrs. Vaughan. Felly, bu haelioni y wraig rinweddol hon yn foddion i gynyrchu haelioni yn ei hardal ei hun, yn gystal ag mewn ardaloedd pell oddiwrth ei chartref. Yr oedd rhinweddau Mrs. Vaughan, o Cefncamberth, yn ei dydd yn hysbys ymhlith miloedd Methodistiaid Cymru, ac y mae ei henw yn berarogl yn ei hardal enedigol hyd heddyw, yn agos i haner can' mlynedd wedi iddi hi huno yn yr Iesu.

Capel y Bwlch, fel yr ymddengys, oedd y cyntaf a adeiladwyd yn yr holl wlad hon. Yn ol y tystiolaethau a gafwyd gan y cymydogion, a'r tystiolaethau hyny wedi eu seilio ar eiriau un o'r rhai oedd a'r llaw benaf gyda'r achos o'r cychwyn cyntaf, adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1795. Aeth tri brawd crefyddol i siarad â'u gilydd ynghylch adeiladu capel, sef Mr. Vaughan,