Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"D.S.—Yr ydwyf yn dymuno arnoch stepio i fyny at John Lloyd, i edrych a ydyw ef wedi ail ysgrifenu'r "Sillydd," a'i orphen yn barod i'r wasg, os ydych yn meddwl fel cylch y bydd iddo fod o ryw fuddioldeb i'r cyffredin ac onide yr wyf yn dymuno cael y copi adref. Yr wyf yn disgwyl y bydd i chwi sefyll at yr amodau a wnaethoch à mi mewn perthynas i'r Llyfr Hymnau. Mae'n gofyn iddo gael ei argraffu cyn association y Bala. Dymunaf arnoch ddyfod yma ddau o'r gloch y Sabbath nesaf, os na fydd i Hugh Jones gael rhywun arall.—J. JONES."

Yn Nghyfarfod Misol Towyn, Hydref 1854, y penderfynwyd i'r Bwlch a Llanegryn fod yn Daith Sabboth. Cyn hyny, y daith oedd, Sion, Llwyngwril, a'r Bwlch; a Llanegryn ac Abertrinant gyda'u gilydd dros ryw dymor.

Ar ol marw Mrs. Vaughan, bu yr achos yn lled isel yn y Bwlch, ac aeth y cyfeillion yn ddigalon. Ystyrid ef yn lle bod fel cynt yn lle cryf, yn un o'r lleoedd gwanaf. Collodd y pregethwyr eu cartref yn Cefncamberth, a buont yn cwydro o dŷ i dŷ, neu ynte yn myned yn eu cylch yn ol y drefn fisol, neu y" "system loerawl," fel y galwai y diweddar Barch, G. Williams, Talsarnau, hi. Modd bynag, mae yn yr ardal gyfeillion caredig iawn mewn lletya pregethwyr wedi bod ar ol dyddiau Mrs. Vaughan, ac yn bod eto. Er i'r achos weled cyfnodau o fyned i fyny ac i lawr yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, y mae gwedd weddol lewyrchus arno yn awr, gan fod nifer o ddynion ieuainc gweithgar yn cydio o ddifrif yn y gwaith. Bu yr eglwys o dan ofal bugeiliol y Parch. Owen Roberts am y tymor y bu ef yn gweinidogaethu yn Llwyngwril; ac y mae yn bresenol o tan ofal y Parch. Richard Rowlands, er yr adeg y mae yntau yn trigianu yn Llwyngwril.

Bu yn perthyn i'r eglwys hon amryw gymeriadau amlwg am eu crefydd a'u duwioldeb. Hynodwyd y lle yn y cyfnod boreuol gan nifer o wragedd duwiol iawn. Byddai presenoldeb y rhai hyn yn foddion i wasgaru annuwiolion oddiwrth eu