Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gilydd, pan ymdyrent yn agos i'r capel i gellwair, neu yn y meusydd i chwareu. Yr oedd dull yr hen wragedd hyn yn nefolaidd wrth ganu yn yr addoliad cyhoeddus. Wedi cael gafael yn yr emyn, ymsymudent gyda'u gilydd yn ol ac ymlaen, fel y cae gwenith o flaen awel o wynt. Hen gristion pybur, a barhaodd yn zelog hyd nes yr oedd yn hen ŵr, oedd Dafydd Sion Jones, Castell Bach. Mynych yr adroddai am y pellder yr arferai fyned yn nechreu ei grefydd i wrando yr efengyl. Elai o'r Bwlch i'r Bontddu i wrando pregeth ar ddydd gwaith. Yr oedd un William Evans, a breswyliai yn un o'r tai yn ymyl y capel ymysg y crefyddwyr cyntaf. Symudodd oddiyno i fyw i Towyn. Gweithiai i Mr. Corbett, Ynysmaengwyn, o gwmpas y palas. Yr oedd odfa yn un o'r ardaloedd cylchynol gan weinidog Ymneillduol pur enwog ar noson waith. Ac yr oedd ef a chydweithiwr iddo yn teimlo yn awyddus i fyned i wrando y bregeth ar ol noswylio, ond ofnent eu meistr, gan y gwyddent fod myned i wrando pregeth gan bregethwr Ymneillduol yn drosedd anfaddeuol. Myned a wnaethant, modd bynag, a thranoeth daeth Mr. Corbett at William Evans, yr hwn oedd yn dilyn ei orchwyl wrtho ei hun, a dywedai, "Aethost ti i wrando ar y Penaugryniaid neithiwr, rhaid i ti ymadael, 'does yna ddim gwaith i ti mwy." "Wel," ebe yntau, "os felly y rhaid iddi fod, nid oes dim i'w wneyd ond ymadael. Diolch yn fawr i chwi, syr, am a gefais i; mi fentra i Ragluniaeth y Brenin Mawr; efe sy'n llywodraethu y byd." Aeth y boneddwr at y gweithiwr arall oedd yn euog o gyflawni yr un trosedd o fyned i wrando ar y Penaugryniaid y noswaith gynt. Hwn, pan wybu ddarfod troi i ffordd ei gydweithiwr, a ffromodd yn arw, ac a wadodd yn bendant na fu ef ddim yn gwrando y bregeth. "Cei di fyn'd i ffordd, beth bynag," ebe Mr. Corbett, "mi welaf y medri di ddweyd celwydd." Felly fu, gorfu iddo fyned i ffordd, a galwyd ar William Evans yn ol, a chafodd aros yn ei le fel cynt oherwydd ei onestrwydd a'i eirwiredd.