Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae y pentref yn sefyll ar wastadedd, wrth odreu bryn hirgrwn, sydd yn cyfodi megis yn nghanol dyffryn Towyn, gan guddio Abergynolwyn o'r golwg y tucefn i'w dalcen gogleddol. Mewn cysylltiad â chrefydd, Bryncrug oedd y lle enwocaf am yr 20 mlynedd cyntaf o ddechreuad yr achos yn y Dosbarth. Dyma lle y cafodd crefydd y cartref cyntaf. Yr oedd yma gapel lawer o flynyddoedd o flaen un lle arall, ond y Bwlch unig. Yma yr oedd John Jones, Penyparc, yn byw, am yr hwn y ceir hanes helaeth mewn penod arall. Yr oedd gwr o'r enw Owen Pugh wedi adeiladu ychydig o dai yn y pentref. Yn un o'r rhai hyn yr oedd gwraig weddw yn byw, a elwid Betti Sion. Yn ei thŷ hi, debygid, y cynhelid y pregethu gyntaf yn y lle. Ryw foreu Sabbath yr oedd cyhoeddiad gŵr dieithr o'r Deheudir yma i bregethu. Yr oedd yn ŵr poblogaidd, ac yr oedd y si wedi myned am dano o amgylch yr ardal, a mwy nag arfer o bobl wedi dyfod i wrando. Penderfynwyd cynal yr odfa yn y cae wrth dalcen y tŷ. A thua chanol y moddion canfyddid dyn yn cerdded o amgylch, ac yn llusgo ysgadenyn coch wrth linyn. Yn ebrwydd, wele ddyn arall yn dyfod, sef helsman y boneddwr a drigai o fewn milldir i'r pentref, a haid o gŵn hela gydag ef, ac yn canu y corn yn arwydd i'r cŵn i ddechreu udo. Ond ni estynodd yr un o'r cŵn ei dafod, yr hyn oedd yn dra rhyfedd. Clywodd y gŵr boneddig am y digwyddiad, a galwodd gydag Owen Pugh, sef perchenog y tai oedd wedi eu hadeiladu ar brydles ar ei dir ef, a gofynodd iddo paham yr oedd yn caniatau i'w denantes i dderbyn y penaugryniaid i'w thŷ? Ei ateb oedd ei fod wedi cael benthyg arian i'w hadeiladu gan un oedd yn ffafriol i Ymneillduaeth. "Tyr'd a'r weithred i mi," meddai, "a rhoddaf arian i ti i dalu iddo." Felly fu. Collodd y gŵr feddiant o'r lle mewn canlyniad.

Dywedai Owen William, Towyn, yr hen bregethwr—ag yntau, y pryd hwnw, yn ei hen ddyddiau—yr hyn a ganlyn wrth Griffith Pugh, Berthlwyd, pan yn myned o'r capel ar fore