Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sabbath i Gwyddelfynydd i giniawa:— "Y fan hon, wrth y tŷ hwn, y clywais i y bregeth gynta' erioed. Yr oedd genyf feddwl uchel am bregethwyr y pryd hwnw, er nad oeddwn wedi clywed yr un erioed ond trwy hanes. Yr oeddwn yn fachgen pur ddrwg, ac mi 'roeddwn yn meddwl y byddent yn gwybod fy hanes, ac yn datguddio hyny ar goedd, a thrwy hyny ymguddiais yn nghysgod hen ŵr o'r enw Arthur Pugh, a dyna oedd pwnc y bregeth, sef traethu am wybodaeth y Brenin mawr. 'Fe wyr Duw,' meddai y pregethwr, rifedi gwallt dŷ ben di.' 'Wel,' ebe Arthur Pugh, yr hen ŵr yr oeddwn yn llechu yn ei gysgod, mae yn rhaid ei fod yn un ciwt iawn i wneyd hyny, beth bynag.'" Yr oedd Owen William tua chwech neu saith oed; cymerodd yr odfa hon le felly yn y flwyddyn 1790 neu 1791.

Adrodda Lewis Morris yn ei Adgofion, yr hanesyn canlynol a gymerodd le yn yr un llecyn, y flwyddyn hon, neu flwyddyn neu ddwy yn ddilynol iddi:— "Digwyddodd tro nodedig pan yr oeddwn ar un nos Sabbath yn pregethu yn Bryncrug, yn nhŷ gwraig weddw, o'r enw Betti Sion. Daeth hen wraig o'r gymydogaeth at y tŷ, ac a'm rhegodd am fy mod yn pregethu, a hi a regodd y bobl hefyd am eu bod yn gwrando arnaf. Ond yn y fan, yn nghanol ei chynddaredd, tarawyd hi yn fud; ni ddywedodd air byth mwyach; a hi a fu farw ymhen ychydig o ddyddiau!" Ac ychwanega Lewis Morris, "Yr oedd amgylchiad fel hyn yn creu arswyd mawr ar bobl y wlad, ac yn peri iddynt feddwl fod Duw y nefoedd yn amddiffyn pregethu, ac yn pleidio pobl y grefydd."

Nid oedd tŷ bychan y weddw dlawd hon yn lle manteisiol i gario yr achos ymlaen. Nid oes sicrwydd, ychwaith, fod yma eglwys eto wedi ei ffurfio. Y tebyg ydyw mai cadw odfa yn unig y byddai pregethwyr dieithr yn nhŷ yr hen wraig. Pregethwyr dieithr yn dyfod heibio ar dro bron yn unig fyddai y pregethwyr yr amser yma; nid oedd eto ond dau neu dri wedi dechreu pregethu yn yr oll o Orllewin Meirionydd. Modd