Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwyllir yn Methodistiaeth Cymru iddo orfod rhoddi yr ysgol i fyny am flwyddyn trwy orthrwm y boneddwr erlidgar, ac mai yn nhŷ un o'r crefyddwyr yn Nhowyn y bu yn ei chadw y flwyddyn hono. Pa fodd yr oedd hyn yn bod, a chan ei dad brydles ar Benypare? Fe fu J. J. yn cadw yr ysgol i ddechreu yn Rhydyronen, pentref bychan o fewn dau ergyd careg Benyparc. Digon tebyg mai y pryd hwn y gorfu iddo symud i Dowyn. Pa fodd bynag, am y rheswm fod gan y teulu brydles ar dŷ a thir Penyparc, yr oeddynt yn gallu rhoddi cymaint o gefnogaeth i grefydd, ac yno y bu yr achos yn cartrefu hyd nes yr adeiladwyd capel Bryncrug.

Dioddefodd yr eglwys hon lawer oddiwrth erledigaeth, gan fod safle yr ardal mor agos i gadarnle erlidiwr creulawn yr amseroedd hyn. Un o'r rhai a "erlidiwyd o achos cyfiawnder" yma oedd Mr. Foulkes, Machynlleth. Bu ef byw yn Machynlleth am dros ddeuddeng mlynedd ar ol symud yno o'r Bala, a'r deuddeng mlynedd hyny oedd y tymor mwyaf erlidgar ar grefydd a fu rhwng y Ddwy Afon. Adroddir amdano yn cael ei daflu i'r afon, ychydig uwchlaw y bont sydd yn nghanol pentref Bryncrug, a llusgwyd ef i fyny yr afon gan ddynion aflywodraethus a dibarch i ddynoliaeth a chrefydd. Yr oedd Mr. Foulkes yn foneddwr ymhob ystyr, yn meddu natur dda, yn llawn o deimlad crefyddol, ac awydd angerddol ynddo i wneuthur lles i'w gyd ddynion, er iddo dderbyn yr anmharch mwyaf oddiar eu llaw. Canmolai yr erlidwyr pan oeddynt ar y weithred o'i lusgo i fyny yr afon, a dywedai wrthynt yn y modd tyneraf, "Da mhlant bach i, da mhlant bach i; yr ydych yn gwneyd gwaith da iawn, yr ydych yn gwneyd gwaith da iawn." Trwy y dull tyner hwn y medrodd ddyfod allan o'u gafael. Bwriadai ddyfod yno wedi hyn, a bwriadai yr erlidwyr ei lusgo trwy yr afon drachefn, ond aeth Mr. Griffith Evans, Dolaugwyn, i Fachynlleth o bwrpas i'w berswadio i beidio dyfod yno, gan y gwyddai fod yno y fath gynlluniau am wneuthur niwed iddo. Yr oedd gwraig Mr. Evans, Dolau-