Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ellis, Abermaw; Richard Lloyd, Gwalchmai; William Hugh, a Lewis Morris; Mri. Harri Jones, Nantymynach, John Jones, Penyparc, a Daniel Jones, Dyffryn Gwyn. Safai y capel cyntaf yn union lle saif y capel presenol, ond ei fod, bid siwr, yn llai ei faint, ac yn hollol ddiaddurn. Cynwysai ddwy o eisteddleoedd, un o bob tu i'r pulpud, a'r gweddill yn llawr gwastad a meinciau ynddo. Yr oedd yr eisteddleoedd wedi eu darparu yn bwrpasol—un i deulu Dolaugwyn, a'r llall i deulu Penyparc. Parhaodd y capel yn y llun a'r maint hwn am ddeugain mlynedd. Ymddengys ei fod yn ddiddyled hollol 1839, oblegid casglwyd yn Mryncrug y flwyddyn hono at glirio dyled capeli y Dosbarth £74 8s. 6c., ac nid oeddynt yn cael dim yn ol o'r casgliad, ond addawyd y caent beth pan yr elent i ddyled eu hunain. Yn y flwyddyn 1841, anfonwyd Mr. John Jones, Geufron yn bresenol, i Gyfarfod Misol Talsarnau, i ofyn dros yr eglwys am ganiatad i helaethu y capel. Gofynid cwestiynau manwl yn y Cyfarfod Misol, megis, a oedd eisian ei helaethu, &c., ac aeth yn dipyn o siarad yn y cyfarfod ar y mater. "Oes, y mae eisiau ei helaethu," ebe Dafydd William, Talsarnau, "mae yn rhy fach pan fyddaf fi yno." Ac ar hyny, rhoddwyd y caniatad, a phenodwyd y Parch. Richard Humphreys i fyned yno i dynu ei gynllun. Helaethwyd ef y tufewn i'w furiau i'w faintioli presenol. Bu cryn drafferth i dalu ei ddyled y tro hwn. Yn Nghyfarfod Misol Aberdyfi, Mawrth, 1851, rhoddwyd £20 gan y Cyfarfod Misol i leihau y ddyled. Oddeutu y pryd hwn, daeth y tir y safai y capel arno yn feddiant i'r diweddar Mr. Foulkes, Aberdyfi, a throsglwyddodd yntau y tir a'r capel yn rhodd i'r Cyfundeb. Rhoddodd hefyd dir y gladdfa sydd wrth ymyl y capel am £40, ac yn ddiweddarach, fel ein hysbyswyd, cyflwynodd y tir hwn hefyd yn rhad i'r Cyfundeb.

Yn 1882, ail adeiladwyd y capel, neu yn hytrach, adeiladwyd ef y trydydd tro i'r ffurf hardd a chyfleus y mae ynddo yn bresenol. Aeth y draul yn £800. Nid oedd heb ei dalu yn niwedd 1885 ond £380.