Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Charles, o'r Bala, yn cysgu yn Penyparc, ar ei ffordd i Gyfarfod Misol Abergynolwyn, a'i letywr, J. Jones, yn rhoddi iddo hanes Lewis William fel un tebyg o wneyd ysgolfeistr. Wedi hyny daeth Lewis William, yr ysgolfeistr, a'r blaenor o Benyparc yn gydnabyddus iawn a'u gilydd, a buont ill dau, fel Moses ac Aaron, y ddau ŵr penaf gyda dygiad yr achos ymlaen yn ei holl ranau yn Nosbarth y Ddwy Afon am flynyddoedd lawer. Bu Lewis William yn cadw ysgol ddyddiol yn Brynerug lawer gwaith yn ei dro. Cadwai yr ysgol yn y capel; ysgol rad ydoedd yn nyddiau Mr. Charles, a dyna fyddai yn cael ei galw wedi hyny dros lawer blwyddyn, er y byddai y plant yn talu rhyw ychydig o bres drostynt eu hunain. Nid oes cyfrif manwl o'r ysgol hon yn Brynerug ar gael, ond ceir rhestr o nifer y plant yn llawysgrif Lewis William ei hun am un chwarter, rywbryd cyn y flwyddyn 1820-eu henwau, eu presenoldeb yn yr ysgol, a'u taliadau. Yr oedd y nifer yn yr ysgol yn 77.

Mae y darn llythyr canlynol oddiwrth Lewis William at Ysgol Sabbothol Bryncrug yn dangos y rhan a gymerai ef gyda'r Cyfarfodydd Ysgolion, a'r sylw manwl a gymerid yn y cyfarfodydd hyny hyd yn nod o fanylion yr ysgolion:-

Aberdyfi, Tachwedd 8fed, 1820.

At Ysgol Sabbothol Bryncrug.

Yr wyf, yr annheilyngaf a'r anfedrusaf, tan rwymau dros y Cyfarfod Chwech Wythnosol, yr hwn a gynhaliwyd yn Pennal, Hydref 29ain, 1820, i'ch anerch mewn diolchgarwch fel ysgol am eich enwogrwydd mewn amryw bethau neillduol yn y chwech wythnos aeth heibio. Yr oedd golwg siriol ar yr achos yn holl ysgolion y cylch yn eu cyfrifon; ond i'ch cyfrifon chwi yr oedd y flaenoriaeth yn y tri pheth canlynol:-(1.) Un o'ch plith chwi a ddysgodd fwyaf o'r Beibl, sef ————— Mae llafur hon yn beth nodedig i sylwi arno, wrth ystyried ei hoedran, a natur ei chyneddfau. Mae yn ddigon er codi