Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaed i'n hwynebau, ac i ystyried pa beth ydym yn ei wneyd â'n cyneddfau, ac i ddeisyf ar i Dduw faddeu i ni ein holl esgeulusdra, ac i godi dychryn yn ein meddyliau pa fodd y bydd arnom i wynebu y frawdle i gyfarfod yr eneth yma.

D.S. Mae y cyfarfod wedi ystyried fod yn ddyledswydd arnom i ddiolch i Dduw drosti, am ei gwaredu o'r cyfyngder y bu hi ynddo, sef cael fit o'r palsey, a'i galluogi i ddysgu cymaint o'r Ysgrythyrau, nes ydyw yn esiampl i ni i gyd fel cylch i'w dilyn."

Mae y gweddill o'r llythyr ar goll.

Yr oedd Lewis William yn cadw ysgol yn Bryncrug yn amser Diwygiad Beddgelert, am ranau o'r blynyddoedd 1818 ac 1819, a thorodd allan yn orfoledd mawr yn y capel gyda'r plant unwaith, ganol dydd gwaith, yn y cynhauaf gwair. Aeth L. W. i holi y plant yn yr Hyfforddwr, ac ymddengys fod J. Jones gydag ef yn yr ysgol y diwrnod hwnw. Yr oedd y drws yn gauad, a dywed rhai ei fod wedi ei gloi pan y torodd yn orfoledd mawr ar ganol yr holi. Y gwragedd yn clywed y plant yn gwaeddi, a ymgasglent ynghyd o bob cwr i'r pen- tref, ac ymdyrent o amgylch y capel; yn methu lân a deall y gwaeddi oedd o'r tu mewn i'r capel, tybient fod J. J. yn haner ladd y plant, a gyrasant gyda phob brys am eu gwyr i ddyfod yno o'r caeau gwair, hyd nes yr oedd y court o amgylch y capel wedi ei lenwi gan wyr a gwragedd, mewn pryder dirfawr ynghylch eu plant. A mawr oedd eu llawenydd pan ddeallasant nad oedd dim niwed wedi digwydd iddynt, ond mai gorfoleddu yr oeddynt hwy a'r ysgolfeistr gyda'u gilydd. Lledaenwyd y newydd am y gorfoledd yn ebrwydd trwy yr holl fro, a chrybwyllir am dano gan amryw o'r hen bobl hyd heddyw. Y mae rhai yn Bryncrug yn awr yn cofio gorfoledd mawr hefyd pan oedd Lewis William yn holi y gynulleidfa ar y Sabbath, tra yr adroddai y bobl yr adnod, "Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni; cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef; a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni." Mae yn dra sicr